Llanc o Bontypridd yn ymuno â Thîm y Gleision

Enillodd merch ifanc ddawnus o Dde Cymru farciau llawn yn arholiad y Gyfraith Lefel A y llynedd, y sgôr uchaf drwy Loegr a Chymru.

Nawr, mae Shannon Britton, 19, o Ferndale, ar fin cwblhau ei thymor cyntaf ym Mhrifysgol Rhydychen lle mae’n astudio Llenyddiaeth Saesneg â’i bryd ar fod yn nofelydd.

Dywedwyd wrth Shannon, a astudiodd y Gyfraith, Llenyddiaeth Saesneg a Hanes Lefel A yng Ngholeg y Cymoedd ac ennill graddau A*, A*, A yn y pynciau, mai’r graddau hynny oedd yr uchaf yn Lloegr a Chymru. Fodd bynnag, mae cyflawniad Shannon yn fwy rhyfeddol fyth gan mai dim ond blwyddyn gymerodd iddi astudio’r tri phwnc lefel A, UG a Lefel A cyfun.

Yn wreiddiol, â’i bryd ar yrfa ym maes cynhyrchu cerddoriaeth, ymrestrodd Shannon ar gwrs galwedigaethol BTEC yng Ngholeg y Cymoedd ynghyd â Lefel UG Saesneg. Fodd bynnag, tra’n astudio ar y cwrs Saesneg canfyddwyd ei photensial academaidd gan ei thiwtor, Sonia Lowe, a anogodd hi i astudio pynciau Lefel A pellach ar gynllun llwybr cyflym y coleg.

Dywedodd Shannon: “Pan dderbyniais fy nghanlyniadau Lefel A , ron i’n poeni cymaint am yr union farc fyddai’n caniatáu i mi fynd i Rydychen, wnes i ddim talu lawer o sylw i’r sgôr. Dim ond pan ddywedodd Ian Rees, Rheolwr Cyngrair Strategol y coleg, wrtho i am edrych ar fy sgôr y sylweddolais mod i wedi cyflawni 100%!

Drwy gymorth a chyfarwyddyd fy nhiwtoriaid, ces fy annog i wneud cais am le yn Rhydychen ac er ei fod yn waith caled, dw i wir yn mwynhau bywyd yn y coleg.”

I gydnabod ei chyflawniad nodedig, cafodd Shannon ei gwahodd i seremoni wobrwyo Lefel A a drefnir gan CBAC, bwrdd arholi blaenllaw Cymru. Mae’r seremoni sy’n digwydd yng Nghaerdydd ar Ragfyr y 18fed yn dathlu camp y myfyrwyr a gyflawnodd orau yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae Shannon yn esiampl ddisglair o botensial pobl ifanc Rhondda Cynon Taf. Mae ennill y marciau uchaf ym mhwnc y Gyfraith yn Lefel A yn dangos gwaith caled ac ymrwymiad Shannon i’w hastudiaethau. Mae’n wir yn crynhoi ethos a chenhadaeth y coleg i atgyfnerthu’r cymoedd drwy addysg, sgiliau a hyfforddiant rhagorol.

“Dymunwn bob llwyddiant i Shannon yn Rhydychen ac yn galw ar ein dysgwyr i ddefnyddio’i stori i’w symbylu i ddilyn a chyflawni eu targedau eu hunain drwy addysg.”

Roedd Shannon ymhlith y dysgwyr cyntaf i sefyll arholiadau Lefel A yng nghanolfan pwrpasol Coleg y Cymoedd ar gyfer Lefel A; rhan o gampws newydd blaengar Nantgarw gwerth £40 miliwn a agorodd ym mis Medi 2012.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau