Llongyfarchiadau i ddysgwyr Safon Uwch Coleg y Cymoedd mewn Cystadleuaeth Ddadlau

Mae Coleg y Cymoedd yn falch dros ben o lwyddiant aelodau o’i Gymdeithas Ddadlau a ddaeth yn ail mewn cystadleuaeth ddiweddar, gan golli o drwch blewyn i Dîm Dadlau o Goleg yr Iwerydd.

Sefydlwyd Cymdeithas Ddadlau newydd Coleg y Cymoedd yn y Ganolfan Safon Uwch, ym mis Hydref eleni, gyda phedwar o’r dysgwyr yn derbyn hyfforddiant gan arbenigwr dadlau o Goleg Chweched Dosbarth Caerdydd. Roedd y pedwar dysgwr yn awyddus i dyfu’r gymdeithas ymhellach ac erbyn hyn mae ganddynt bron i 20 aelod.

Mae tri aelod o’r Gymdeithas, Lilia Simonov (16), Rebecca Mardon (16), a Cerys Baker (16), i gyd yn astudio Safon Uwch yng Ngholeg y Cymoedd ac roeddent yn awyddus i gynrychioli’r coleg yn eu cystadleuaeth gyntaf. Trefnwyd y gystadleuaeth gan Gangen Du Cymru’r ESU (English Speaking Union), a chroesawyd timoedd ac ysgolion a cholegau o bob rhan o dde Cymru.

Aeth y dysgwyr drwy ddwy rownd cyn wynebu Coleg yr Iwerydd yn y rowndiau terfynol – cyflawniad gwych yn eu cystadleuaeth gyntaf. Roedd y pynciau dadlau yn gyfoes megis “dychwelyd arteffactau diwylliannol” a “chael gwared ar henebion dadleuol”. Siaradodd y dysgwyr talentog gydag eglurder a dadleuon cryf, gan ddangos ymwybyddiaeth o faterion cyfoes er mwyn gallu trafod y pwnc yn effeithiol.

Wrth siarad ar ôl y gystadleuaeth dywedodd Lilia sy’n cynrychioli tîm Coleg y Cymoedd ”Rydym ni wir wedi mwynhau sefydlu’r Gymdeithas Ddadlau a chynrychioli’r coleg yn ein cystadleuaeth gyntaf. Rydym wedi ennill sgiliau areithio gwerthfawr dros yr ychydig fisoedd diwethaf a fydd yn gwella ein siarad cyhoeddus. Byddwn yn rhannu ein profiadau gyda dysgwyr eraill a gobeithio eu hannog i ymuno â’r gymdeithas ”.

Wrth longyfarch y dysgwyr, dywedodd Holly Richards, Darlithydd yn y Ganolfan Safon Uwch “Rwy’n hynod falch o’r hyn y mae’r dysgwyr wedi’i gyflawni mewn cyn lleied o amser. Maent wedi dangos menter wych wrth sefydlu’r gymdeithas ac mae’n parhau i dyfu o nerth i nerth.

Wrth eu gwylio ar waith yn ystod y dadlau ni fyddech chi byth yn credu eu bod yn ddadleuwyr newydd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut y gall y gymdeithas hon ddatblygu ymhellach. Fe wnaethant mor dda i ddod yn ail yn eu cystadleuaeth gyntaf ”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau