Mae Celia Baxter (Gweinyddwr Cyfadran, y Ganolfan Safon Uwch) wedi derbyn “Canmoliaeth Uchel†yng Ngwobrau Cymraeg Gwaith 2021, yn y categori “Cynnydd Gorau ar Lefel Mynediadâ€.
Mae Cymraeg Gwaith yn rhaglen genedlaethol ledled Cymru, gan gynnwys y sectorau Addysg Uwch ac Addysg Bellach, a chyflogwyr gwasanaethau cyhoeddus fel cynghorau a chwmnïau AD. Mae 11 coleg ledled Cymru yn cymryd rhan yn y rhaglen hon, gan gynnwys Coleg y Cymoedd.
Rhaid i ddysgwyr gwblhau 120 awr o ddysgu Cymraeg, drwy wersi wythnosol a thiwtorialau, ynghyd â gwaith annibynnol.
Mae presenoldeb Celia mewn dosbarthiadau/tiwtorialau wedi bod yn bron i 100%, ond mae hi wedi rhagori’n arbennig yn lefel ei gwaith annibynnol.
Gorffennodd Celia Flwyddyn 2 y cwrs gyda chyfanswm o fwy na 250 awr o ddysgu – drwy ddefnyddio’r ap Duolingo, podlediadau BBC Cymru ac adolygu annibynnol.
 O ganlyniad, mae hi wedi gwneud cynnydd rhyfeddol yn ei gwybodaeth a’i defnydd o’r Gymraeg yn ei gwaith a’i bywyd bob dydd – llongyfarchiadau enfawr, Celia!