Llwyddiant cynllun peilot Y Cymoedd i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg

Mae cyfnod gadael ysgol a dechrau cwrs mewn coleg yn un cyffrous ond gall hefyd fod yn adeg pryderus i ddysgwyr, dyna pam bod Coleg y Cymoedd yn cynnal diwrnodau ‘pontio’ bob blwyddyn – cynllun sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn.

Eleni am y tro cyntaf, cynhaliodd Coleg y Cymoedd wythnos o ddigwyddiadau pontio yn canolbwyntio’n benodol ar ddysgwyr o ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mwynhawyd y digwyddiadau, a gynhaliwyd ar bedwar campws y coleg yn Aberdâr, Nantgarw, Rhondda ac Ystrad Mynach, gan 26 o ddisgyblion Cymraeg eu hiaith sydd wedi cofrestru ar gyrsiau amrywiol ar draws y coleg.

Roedd y sesiynau’n gyfle i’r dysgwyr ddod i adnabod myfyrwyr eraill ar eu campws sy’n siarad Cymraeg, dod i wybod am y cyfleoedd sydd yna i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg yn y dosbarth a thu hwnt, a dysgu am eu hawliau fel siaradwyr Cymraeg yn y coleg.

Bu Llysgenhadon presennol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Lilia, Llinos a Sophia, yn helpu i hwyluso’r digwyddiad ar gampws Nantgarw, gan gymryd rhan yn y gweithgareddau torri’r garw a thywys y dysgwyr ar daith o amgylch y campws.

Cynhaliodd Lowri ac Osian, swyddogion Menter Iaith Caerffili a Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, weithdai rhyngweithiol gyda’r dysgwyr i drafod syniadau ar ba fath o weithgareddau y dylid eu cynnig i Gymry Cymraeg ifanc yr ardal. Derbyniodd y dysgwyr hefyd wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli a gwaith y Mentrau Iaith yn gyffredinol.

Dywedodd Lois Roberts, Rheolwr y Gymraeg yn y Coleg: “Bu hon yn wythnos anhygoel! Dyma’r tro cyntaf i ni gynnig digwyddiad o’r fat,h felly doedden ni ddim yn siŵr a fyddai’n apelio at ddysgwyr, ond mae wedi bod yn wych.

“Mae’n gyfle da i ddod i adnabod y myfyrwyr Cymraeg eu hiaith cyn iddyn nhw gychwyn ar eu cyrsiau yn y coleg ac i helpu gyda’u trosglwyddiad o’r ysgol. Maen nhw wedi cael y cyfle i ddod i wybod am y cymorth a’r gwasanaethau sydd ar gael yng Ngholeg y Cymoedd ac yn y gymuned ehangach, ac am eu hawliau fel dysgwyr Cymraeg eu hiaith. Mae hefyd wedi rhoi cyfle i drafod syniadau gyda nhw am bethau yr hoffen nhw weld yn cael eu cynnig yn y coleg yn y dyfodol, trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau