Llwyddiant i ddarpar addurnwraig mewn Gornest Sgiliau

Mae merch 19 mlwydd oed o’r Bargod wedi ei dyfarnu’n drydydd mewn categori ‘Newydd-ddyfodiaid’ rhag-rowndiau Cymru o gystadleuaeth paentio ‘World SkillBuild’.

Roedd Nicola Parker, o Goleg y Cymoedd, yn wynebu dysgwyr o bob cwr o Gymru mewn cyfres o heriau paentio ac addurno oedd yn brawf ar allu pob un dros gyfnod o bum awr. Roedd disgwyl i’r dysgwyr weithio o gynllun penodol a pherfformio sgiliau technegol yn cynnwys sgiliau brws, papuro a gwaith stensil.

Eleni roedd ‘SkillBuild’ yn cynnal cystadleuaeth ‘Newydd-ddyfodiaid’ i rai ar eu blwyddyn gyntaf mewn coleg i ddathlu egin dalentau sy’n cychwyn ar eu crefft.

Mae Ffeinal ‘CITB SkillBuild’ yn rhan o gyfres o gystadlaethau i gydnabod sgiliau galwedigaethol a chreu gweithlu uchel eu crefft i’r dyfodol yng Nghymru. Roedd y safon yn arbennig o uchel ymhlith crefftwyr Cymru eleni, a bydd yr enillwyr yn mynd ymlaen i Ffeinal y DU yn Birmingham ac yna i bencampwriaeth SkillBuild Y Byd yn Rwsia yn 2019.

Cynhaliwyd cystadlaethau Cymru ar gampysau Colegau Castell-nedd ac Abertawe ar ddydd Iau, Mehefin 2il 2016, gyda’r myfyrwyr yn teithio yno o bob cwr o Gymru.

Yn ôl Nicola, sy’n astudio Paentio ac Addurno Lefel 1 ar gampws Ystrad Mynach, roedd hi wrth ei bodd iddi gael bod ymhlith y goreuon: “Roedd dod yn drydydd mewn gornest mor galed wedi bod yn gryn sioc i mi. Roeddwn yn nerfus iawn ar y diwrnod, ond hefyd yn gyffrous mod i’n cael arddangos fy sgiliau. Fe gefais i sesiwn ymarfer gyda’m tiwtor, Mark Jones, yr wythnos flaenorol a mynd drwy fy holl dechnegau nes fy mod i’n teimlo’n hyderus ac yn barod am y diwrnod mawr. Rhyw ddydd, mi hoffwn i redeg fy musnes fy hunan ac mae cael lle ymhlith yr enillwyr yn gwneud i mi deimlo mod i gam yn nes at hynny.”

Dywedodd Martin Watkins, Pennaeth Adeiladu Coleg y Cymoedd: “Mae Cystadleuaeth SkillBuild Y Byd yn gyfle gwych i fyfyrwyr gystadlu ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’n bwysig ein bod yn cymell cymaint â phosib o’n dysgwyr i gystadlu, gan fod ganddyn nhw lefel eithriadol o uchel o sgiliau. Roedd hon yn gamp ffantastig i Nicola, rydyn ni’n dymuno’n dda iddi am weddill y cwrs a chystadlaethau yn y dyfodol.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau