Llwyddiant i ddysgwyr Safon Uwch Coleg y Cymoedd

Mae Coleg y Cymoedd heddiw (16 Awst) yn dathlu blwyddyn arall o ganlyniadau Safon Uwch a galwedigaethol cryfion a fydd yn arwain at ddysgwyr yn teithio ar draws y wlad i astudio mewn rhai o brifysgolion gorau’r DU.

Ymhlith cyflawniadau rhagorol y dydd mae tri dysgwr o Gaerffili sydd wedi ennill canlyniadau ardderchog, a fydd yn eu galluogi i gymryd y camau nesaf tuag at yrfaoedd eu breuddwydion trwy ennill lleoedd mewn prifysgolion blaenllaw mewn meysydd o’u dewis.

Mae Holly Taylor yn dathlu llwyddiant ar ôl ennill y canlyniadau sydd ei hangen arni i sicrhau lle yn Kings College yn Llundain i astudio’r Saesneg, gyda’r graddau AAB yn y Saesneg, Hanes a Drama.

Fodd bynnag, mae Holly, sydd hefyd yn ymddiddori mewn Celf, wedi dewis aros yng Ngholeg y Cymoedd am flwyddyn arall i astudio ar gyfer y Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio – rhywbeth y mae hi wedi bod yn awyddus i’w astudio erioed ond rhywbeth nad oedd yn gallu ei wneud yn ystod ei Safon Uwch. Gan obeithio sicrhau gyrfa mewn ysgrifennu creadigol ac actio, mae Holly yn edrych ymlaen at ychwanegu at ei sgiliau ac astudio pwnc arall, cyn mynd ymlaen i’r brifysgol a oedd yn ddewis cyntaf iddi.

Dywedodd Holly: Rwyf wedi mwynhau fy amser yn y coleg yn fawr ac rwy’n falch iawn o gael y cyfle i astudio Celf, yr oeddwn wrth fy modd gyda’r TGAU, ond ni chefais y cyfle i’w astudio ar gyfer Safon Uwch. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle i mi wneud rhywbeth yr wyf yn ei fwynhau, wrth ychwanegu at fy sgiliau.

“Rwyf hefyd yn gobeithio gwirfoddoli a gweithio’n rhan-amser ochr yn ochr â’m hastudiaethau dros y flwyddyn nesaf i ehangu fy mhrofiad bywyd cyn y brifysgol. Mae gallu gwneud gradd sylfaen a mynd i’r brifysgol yn gyfuniad perffaith imi ac rwy’n falch iawn o gael y canlyniadau i’m galluogi i gyflawni hyn. “

Hefyd yn chwifio’r faner i Caerffili mae Lauren Malin, o Gaerffili, sy’n edrych ymlaen at gychwyn gyrfa ei breuddwydion mewn Daeareg. Gan obeithio gweithio gyda chwmnïau olew i wella eu cynaladwyedd, bydd Lauren yn astudio Daeareg a Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Birmingham – un o’r unig brifysgolion sy’n cynnig y cwrs cyfunol – oherwydd ei BBB mewn Hanes, Daearyddiaeth a’r Saesneg.

Dywedodd Lauren: “Rydw i mor falch fy mod yn mynd i’r brifysgol a oedd yn ddewis cyntaf imi ac ni allaf aros i gymryd y camau nesaf tuag at ddechrau fy ngyrfa ddelfrydol. Rwyf bob amser wedi bod yn awyddus i ddilyn gyrfa mewn Daeareg, yn ddelfrydol swydd sy’n caniatáu imi deithio ac sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn gweithio gyda chwmnïau olew i’w helpu i fod yn fwy cynaliadwy o ran echdynnu olew.

Llwyddodd Thomas Wade, 21, o Goed Duon, Caerffili, ennill A mewn Mathemateg, gan sicrhau lle i astudio Mathemateg ym mhrifysgol De Cymru. Mae Tom, sy’n dioddef o syndrom Asperger, yn gobeithio mynd i addysgu ar ôl cwblhau ei radd er mwyn helpu disgyblion eraill â’i gyflwr i anelu at fynd i’r brifysgol. Dywedodd Thomas, “Mae cael fy nghanlyniadau heddiw wedi bod yn llwyddiant mawr imi a bu’n daith hir. Mae fy Asperger wedi gwneud fy llwybr at gwblhau fy Safon Uwch mewn Mathemateg yn fwy anodd ond rwyf mor falch fy mod yn herio fy hun. Ers mynd i’r coleg, mae fy hyder wedi tyfu’n aruthrol, ac mae’r profiad wedi fy helpu i.

“Rydw i wedi cael cymorth amhrisiadwy gan fy nhiwtoriaid ac rwyf am roi’r un peth yn ôl i bobl eraill yn fy sefyllfa i a dyna pam yr wyf yn awyddus i fentro i’r byd addysg. Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gweithio fel cynorthwyydd addysgu yn fy hen ysgol, Ysgol Headlands, a mwyheais yn fawr. Rwyf hefyd am roi’r cyfle i bobl arall fwynhau Mathemateg yn yr un modd â mi.

“Os oes unrhyw un arall yn teimlo fel yr oeddwn i, na allant fynd i’r brifysgol, byddwn yn dweud wrthynt am roi cynnig arni. Os nad ydych yn llwyddo, nid yw’n ddiwedd y byd, mae opsiynau eraill, ond hyd yn oed os nad ydych yn credu y gallwch, efallai y byddwch yn synnu’ch hun “

Tynnodd heddiw sylw hefyd at sêr Safon Uwch y flwyddyn nesaf megis Thomas Tittman, 17, a enillodd dwy radd A mewn Bioleg a Ffiseg UG, yn ogystal ag A * mewn Mathemateg Safon Uwch, ar ôl cwblhau’r cwrs llwybr cyflym yn y pwnc. Ar ôl ennill 5 A* a 6 A mewn TGAU, gan gynnwys A* mewn Mathemateg, cafodd Tom y cyfle i gwblhau ei Safon Uwch Mathemateg flwyddyn yn gynnar – her a dderbyniodd yn syth. Mae Tom ar y trywydd iawn i gyflawni ei nod o fynd ymlaen i astudio Mathemateg yn Rhydychen neu Gaergrawnt.

Eleni, 98 y cant oedd cyfradd basio gyffredinol Canolfan Chweched Dosbarth Coleg y Cymoedd, a leolir yn Nantgarw, gyda 15 o 22 maes pwnc y coleg yn sicrhau cyfradd lwyddo o 100 y cant, gan gynnwys Mathemateg Bellach, Hanes, Daearyddiaeth, Y Gyfraith a Saesneg iaith a llenyddiaeth.

Mae nifer y dysgwyr sy’n ennill graddau A * -C hefyd wedi cynyddu’n sylweddol, 13% yn fwy nag y llynedd, gan ddangos ymrwymiad y coleg i wella ansawdd yr addysgu a’r dysgu y mae’n eu darparu yn barhaus.

Yn ogystal â chanlyniadau Safon Uwch, mae’r coleg hefyd yn dathlu blwyddyn sydd wedi gweld y canlyniadau gorau erioed ar gyfer dysgwyr galwedigaethol, sy’n eu galluogi i symud ymlaen i lefel prifysgol neu’r gweithle.

Meddai Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae canlyniadau heddiw yn nodi blwyddyn arall o gyflawniadau academaidd eithriadol in dysgwyr Safon Uwch a galwedigaethol yng Ngholeg y Cymoedd. Mae’r canlyniadau hyn yn wobr haeddiannol iawn am waith caled ac ymroddiad y dysgwyr i’w datblygiad personol, ac maent hefyd yn dyst i ansawdd uchel y gefnogaeth addysgu a bugeiliol a ddarperir gan ein tîm.

“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r addysg orau bosibl i Gymoedd De Cymru ac mae llwyddiannau heddiw yn tynnu sylw at wir werth y Coleg y Cymoedd i’r rhanbarth.

“Rydym yn falch iawn o’r holl ddysgwyr sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw a hoffem longyfarch pob un ohonynt. Dymunwn y gorau iddynt ar gyfer y dyfodol, beth bynnag y maent yn penderfynu ei wneud, boed hynny’n mynd i’r brifysgol, prentisiaeth, addysg bellach neu hyfforddiant, neu gymryd eu camau cyntaf ar yr ysgol yrfa.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau