Mae myfyrwraig o Donyrefail newydd ennill y wobr aur yn ffeinal y sgiliau cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Ewinedd.
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru (Skills Competition Wales) dan nawdd Llywodraeth Cymru yn gyfres o ddigwyddiadau a luniwyd i ddathlu sgiliau galwedigaethol a chreu gweithlu medrus iawn yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.
Gydag athletwyr Olympaidd yn hyfforddi’n galed ar gyfer y gemau yn Rio, mae Holly Bailey ymhlith y 78 o bobl ifanc Cymru sydd wedi bod yn perffeithio’u sgiliau hithau i ennill medal. Gall yr egin bencampwyr hyn ar draws ystod o alwedigaethau o ddylunio graffeg i goginio teisennau, yn union fel yr athletwyr Olympaidd, fynd ynmlaen i gystadlu yn erbyn cystadleuwyr o wledydd eraill.
Bu Holly, o Goleg y Cymoedd, yn cystadlu yn erbyn pedwar myfyriwr arall o Gymru. Roedd rhaid iddyn nhw gwblhau cyfres o sialensiau gwasanaethau ewinedd o fewn cyfnod o ddwy awr a hanner i drin ewinedd a’u haddurno.
Dywedodd Holly sy’n astudio Diploma Lefel 3 mewn Technoleg Ewinedd ei bod wrth ei bodd i ennill y gystadeuaeth:Â
“Roedd ennill y gystadleuaeth yn sioc llwyr. Roeddwn i’n hynod nerfus ar y diwrnod, ond hefyd yn gyffrous mod i’n cael arddangos fy sgiliau. Fe wnes i sesiwn ymarfer gyda fy nhiwtoriaid yr wythnos flaenorol a mynd drwy fy holl dechnegau nes mod i’n teimlo’n hyderus ac yn barod ar gyfer y diwrnod mawr. Rydw i wedi ymddiddori mewn celf ewinedd ers peth amser, rydw i’n berson artistig ac felly’n mwynhau chwarae tipyn gyda gwahanol batrymau pan fydda i wrth fy ngwaith yn y salon harddwch. Fe fyddwn i’n dwli rhedeg fy musnes fy hunan rhyw ddydd ac y mae ennill y gystadleuaeth hon yn gwneud i mi deimlo mod i un cam yn nes at wireddu hynny.â€Â
Yn ôl Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae Cystadleuaeth Sgiliau Byd yn gyfle gwych i fyfyrwyr gymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’n bwysig i ni annog cymaint o ddysgwyr â phosibl i gystadlu, maen nhw’n meddu ar sgiliau nodedig eu lefel. Mae’r hyn y mae Holly wedi’i gyflawni’n wych a dymunwn bob lwc iddi ar gam nesaf y gystadleuaeth.â€Â
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn rhan o Raglen Llywodraeth Cymru ar Dwf a Swyddi Cynaliadwy, gyda’r bwriad i hyrwyddo pwysigrwydd sgiliau galwedigaethol ac i roi hwb i alluoedd cyffredinol a ffyniant Cymru.
Gyda chymorth y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru a rhwydwaith o golegau a darparwyr addysg yn y gweithle yn trefnu’r cyfan, bydd 33 o Gystadlaethau Sgiliau lleol yn cael eu cynnal rhwng Chwefror ac Ebrill mewn amrediad o sectorau yn ymestyn o wyddorau fforensig a mecaneg ceir i gynllunio gwefan a chelf ewinedd.
Gallai Holly fynd ymlaen i gynrychioli Coleg y Cymoedd yn rownd y DU o Sgiliau Byd Gwasanaethau Ewinedd, gyda’r darpar nod o gynrychioli Tîm Cymru yn Sioe Sgiliau eleni yn Birmingham ym mis Tachwedd. Yna, efallai bydd yn gymwys i gystadlu am le yn y sgwad a fydd yn cynrychioli’r DU yng Nghystadleuaeth Sgiliau Byd yn Abu Dhabi yn 2017.
Dywedodd Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg:Â
“Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae’r talent a welir yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gwella. Mae’r digwyddiadau hyn yn annog cystadleuaeth iach ac yn fodd rhagorol o gydnabod y talent gwych sydd gennym yn ein gwlad.
“Eisoes mae dwsinau o golegau, Cynghorau Sgiliau Sector a darparwyr addysg yn y gweithle ledled Cymru yn cymryd rhan ym menter Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ac wedi gweithio’n galed i drefnu’r rowndiau cyn-derfynol a’r rowndiau terfynol ond rydyn ni’n awyddus i weld rhagor o fusnesau Cymru yn cefnogi eu cyflogai ifanc talentog a’u hannog i gystadlu.â€
Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog: “Mae’n golygu llawer o waith caled i gyrraedd y rownd derfynol ond mae ennill medal aur yn gyflawniad gwych. Mae’n amlwg bod yr holl gystadleuwyr yn frwd iawn ac yn benderfynol o fod y gorau yng Nghymru.
“Dymunwn bob lwc i Holly ac i bob un arall sy’n cystadlu nid yn unig yn rownd nesaf y gystadleuaeth ond hefyd yn eu darpar yrfaoedd.â€