Llwyddiant mewn cystadleuaeth sgiliau i fand o Goleg y Cymoedd

Mae criw o fyfyrwyr o Goleg y Cymoedd wedi ennill medal aur mewn cerddoriaeth boblogaidd yn rownd derfynol cystadleuaeth sgiliau genedlaethol.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, cyfres o ddigwyddiadau a gynhelir mewn colegau ar hyd a lled y wlad yw Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, gyda’r nod o ddathlu sgiliau galwedigaethol a chreu gweithwyr cyflogedig arobryn, hynod fedrus ar gyfer gweithlu Cymru.

Bu Georgina Davey, 19, Caitlin Lavanga, 20, Christian Punter, 18, a Rhys Davies, 20, sef y band ‘Working On It’, yn cystadlu yn erbyn naw band arall yn y gystadleuaeth, gan berfformio dwy gân ‘cover’ i banel o feirniaid.

Roedd Christian, gitarydd y band, yn methu credu’r peth pan gyhoeddwyd mai ‘Working On It’ oedd yn fuddugol. 

“Roedden ni wedi’n syfrdanu ein bod ni wedi ennill y gystadleuaeth – rydyn ni ond wedi bod yn perfformio gyda’n gilydd am rai wythnosau ond fe wnaeth ein tiwtoriaid ein perswadio ni i ddod at ein gilydd a chystadlu. Wedi dweud hynny, fe fuon ni’n ymarfer ein caneuon, ‘Bad Romance’ gan Lady Gaga a ‘Begging’ gan Madcon, tan ein bod ni’n gallu’u perfformio nhw yn ein cwsg!

“Dwi mor falch ein bod ni wedi cystadlu, dwi’n meddwl y gallai hyn fod yn ddechrau ar grŵp llwyddiannus newydd. Mae Caitlin a finne wedi bysgio o gwmpas Caerdydd a pherfformio mewn tafarndai lleol, ond bydd hi’n wych ymestyn allan a dechrau perfformio fel ‘Working on it’ yng nghamau nesaf y gystadleuaeth a thu hwnt.”

Mae dros 35 o gystadlaethau yn cael eu cynnal eleni, ar draws amrywiaeth eang o alwedigaethau, o waith plymio i therapi harddwch, o beirianneg awyrennau i gyfrifyddiaeth.

Mae’n bosib y bydd y cystadleuwyr rhanbarthol llwyddiannus yn mynd ymlaen wedyn i herio pobl ifanc o bob cwr o’r DU yn y rownd derfynol genedlaethol i’r DU gyfan, a gynhelir yn y Skills Show yn yr NEC yn Birmingham ym mis Tachwedd. Yna, mae’n bosib y bydd y cystadleuwyr sy’n rhagori yno yn cael eu rhoi ar restr fer i fynd ymlaen i herio goreuon y byd yng nghystadleuaeth ryngwladol WorldSkills yn Kazan, Rwsia yn 2019.

Meddai Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: “Yn y Skills Show y llynedd, roedd Cymru ar frig tabl rhanbarthau’r DU gyda 45 o fedalau, sy’n dangos ein bod ni’n cynhyrchu rhai o’r bobl ifanc mwyaf talentog ym Mhrydain.”

“A hithau’n flwyddyn pan mae Cymru’n dathlu ffigyrau chwedlonol y gorffennol, mae cystadlaethau fel hyn yn tynnu sylw at y doniau sydd gennym o Fôn i Fynwy ac yn rhoi llwyfan i ffigyrau chwedlonol Cymru’r dyfodol.

“Mae’r band wedi gweithio’n galed iawn a dangos penderfyniad i lwyddo, ond mae cefnogaeth eu tiwtoriaid hefyd yn ffactor llawn mor bwysig i’w llwyddiant ac felly hoffwn ddiolch yn arbennig i’r holl fusnesau lleol, ysgolion a cholegau ledled Cymru sy’n cefnogi’r unigolion talentog hyn.

“Hoffwn longyfarch y band a dymuno’n dda  iddyn nhw yng ngham nesaf y gystadleuaeth a dymuno’r gorau iddyn nhw i’r dyfodol.“ 

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau