Llwyddiant Myfyrwraig Gofal o Rhondda Cynon Taf mewn Cystadleuaeth Sgiliau

Mae Coleg y Cymoedd wedi clywed eu bod wedi ennill ‘Lefel Aur’ yng Ngwobrau Cynllun Teithio Cymru, a hynny am eu gwaith yn datblygu strategaeth i hybu arferion teithio cynaliadwy yn y Coleg.

Caiff strategaeth a chynllun y Coleg ei ddatblygu a’i fonitro gan grŵp o staff y coleg, yn gweithio â phartneriaid allweddol sy’n cynnwys Cynghorau Bwrdeistref Caerffili a Rhondda Cynon Taf, Heddlu De Cymru a SEWTA (Cynghrair Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru).

Oherwydd y gwaith hwn, mae’r sefydliad yn gwneud cynnydd cyson i leihau nifer y teithiau ceir sydd â dim ond un person yn y cerbyd ac annog defnyddio cludiant sy’n lleihau’r ôl-troed carbon. Mae’r mentrau’n cynnwys cymell beicio a defnyddio cludiant cyhoeddus. Bu arolygon blynyddol ymhlith y staff a’r myfyrwyr yn help i gyfeirio blaenoriaethau’r cynllun ac mae hyd yn oed wedi arwain i ailgyfeirio’r ffyrdd cyhoeddus yn ardal Nantgarw.

Mae’r Cynllun Teithio hefyd yn cyfrannu at y safon Iechyd Corfforaethol Platinwm y gwnaeth y coleg lwyddo i’w gyflawni am y gwaith o gymell patrwm byw actif drwy gerdded a beicio, sy’n dargedau allweddol gan y Coleg. Bydd yr arferion hyn, ynghyd â’r bwriad i hyrwyddo rhannu ceir, hefyd yn helpu’r amgylchedd o gwmpas y campysau drwy leihau nifer y ceir fydd angen parcio.

Hefyd, yn y flwyddyn sydd i ddod, mae’r Coleg fesul cam yn cyflwyno mwy o ddefnydd o gyswllt fideo i ostwng teithiau staff rhwng campws a champws, fydd o fantais i’r coleg, y staff a’r myfyrwyr drwy arbed costau.

I ennill y Wobr Aur, cafodd Coleg y Cymoedd eu hasesu a chafwyd eu bod yn cwrdd â’r meini prawf canlynol: wedi ennill Gwobr Arian y llynedd, cwblhau arolwg staff cyflawn gydag ymateb o 50%, arddangos tystiolaeth o fonitro a chael adborth ar eu cynnydd yn erbyn yr amcanion a osodwyd, parhau i weithredu llwyddiannau yn erbyn y targedau cyfredol, datblygu pellach ar y mentrau teithio a chytuno ar dargedau pellach, cynhyrchu cynllun gweithredu diwygiedig gyda dyddiadau ar gyfer darpar arolygon a monitro, ac yna darparu tystiolaeth fod y cynllun ar ei newydd wedd wedi ei gyfleu i’r staff.

Yn ôl David Brookes, Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr: Mae’r Coleg yn eithriadol o falch o ennill y Wobr Aur am y Cynllun Teithio a bydd yn parhau i weithio’n agos â’r staff, dysgwyr a phartneriaid allweddol. Unwaith byddwn ni wedi dal Gwobr Aur am flwyddyn, byddwn mewn sefyllfa i wneud cais am Wobr Platinwm sef y safon uchaf y gall unrhyw sefydliad ei gyrraedd. Mae’r staff a’r dysgwyr wedi bod yn allweddol i ni ennill y wobr hon; cyn y gellir llwyddo rhaid i bawb fod yn rhan o’r cynlluniau. Rydyn ni bob amser yn awyddus i glywed am unrhyw syniadau sydd gan y staff a’r dysgwyr mewn perthynas â’r Cynllun Teithio.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau