Llwyddiant Safon Uwch i Ganolfan Chweched Dosbarth Coleg y Cymoedd

Mae naws gŵyl yng Ngholeg y Cymoedd heddiw (17 Awst) wrth i ddysgwyr ac athrawon ddathlu blwyddyn arall o ganlyniadau arholiad arbennig.

Mae Canolfan Chweched Dosbarth y Coleg, a ddarperir mewn partneriaeth â Choleg Catholig Dewi Sant ac Ysgol Gatholig Cardinal Newman, wedi gweld blwyddyn arall o ganlyniadau eithriadol, gan gadarnhau ei safle fel un o brif ddarparwyr Safon Uwch yng Nghymoedd De Cymru.

Eleni, mae Coleg y Cymoedd yn dathlu cyfradd lwyddo o 98 y cant ar Safon Uwch, gyda chynnydd o 5 y cant yn y canlyniadau A * / A. Yn ogystal, cafodd nifer o blith 23 maes pwnc Safon Uwch y Coleg gyfradd lwyddo o 100 y cant, gan gynnwys Saesneg, y Gyfraith, Hanes, Daearyddiaeth, Ffotograffiaeth, Drama, Technoleg Dylunio, Ffrangeg, Cerddoriaeth, Cyfryngau, Ffilm ac Astudiaethau Busnes.

Gyda mwy na 240 o ddysgwyr yn derbyn eu canlyniadau heddiw, Coleg y Cymoedd yw’r darparwr Safon Uwch mwyaf yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Taf.

Ymhlith cyflawniadau rhagorol y diwrnod mae saith o ddysgwyr y Cymoedd o RhCT, Caerffili a Merthyr Tudful, a sicrhaodd set arbennig o raddau A * / A.

Bydd Megan Howells, 18 oed o Ferthyr Tudful, yn mynd i Goleg y Frenhines, Rhydychen ym mis Medi i astudio’r Gyfraith ar ôl ennill graddau A * A * A rhagorol mewn Saesneg, y Gyfraith a Hanes.

Yn y cyfamser, mae Aoife Elwood, 18 oed o Gaerffili, yn astudio Astudiaethau Archaeoleg a Hanes Hynafol Clasurol yng Ngholeg Lady Margaret Hall ar ôl ennill graddau AAA mewn Bioleg, Saesneg a Hanes.

Mae Mollie Eatwell, 18, ac Oliana Finlayson, 18 oed, hefyd o Gaerffili, wedi cyfrannu at lwyddiant y coleg trwy ennill graddau arbennig (A * A A) yn yr un tri phwnc – Seicoleg, Cymdeithaseg ac Astudiaethau Crefyddol. Bydd Mollie yn astudio Cymdeithaseg gyda Throseddeg ym Mhrifysgol Exeter, tra bod Oliana yn mynd i Brifysgol Birmingham.

Yn ogystal, mae’r dysgwyr Safon Uwch Luke Ashman, Sam Andrews a Christopher Hodges, i gyd wedi ennill graddau A mewn amrywiaeth o bynciau, gan ennill lleoedd ym mhrifysgolion Grŵp Russell.

Meddai Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: Mae’r canlyniadau gwych yr ydym wedi’u gweld heddiw yn dyst i waith caled ac ymroddiad staff a myfyrwyr fel ei gilydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Ein cenhadaeth yw darparu addysg o ansawdd uchel i ranbarth De Cymru ac felly mae’n bleser gweld llwyddiant parhaus ein dysgwyr yn y Ganolfan Chweched Dosbarth.

“Mae’n ddiwrnod balch i’r coleg ac i deuluoedd y bobl ifanc hyn, ac rydym yn dymuno’r gorau iddyn nhw yn y dyfodol wrth iddynt symud ymlaen i brifysgol, addysg bellach neu hyfforddiant, neu gymryd eu camau cyntaf ar yr ysgol yrfa . 

Mae Coleg y Cymoedd yn gwasanaethu mwy na 12,000 o ddysgwyr o fwrdeistref Caerffili, Rhondda Cynon Taf a’r ardaloedd cyfagos. Yn ogystal â Safon Uwch, mae’r coleg yn darparu dewis eang o gyrsiau galwedigaethol ar draws ei bedwar campws – Aberdâr, Nantgarw, y Rhondda, ac Ystrad Mynach.

Wedi’i sefydlu yn 2012, mae Canolfan Chweched Dosbarth y Coleg yn cynnig 23 o bynciau UG ac Uwch i ddysgwyr, yn ogystal â 7 opsiwn Lefel 3 BTEC.

Mae lleoedd ar gael o hyd ar gyfer cyrsiau Safon Uwch a galwedigaethol sy’n dechrau ym Medi 2017. Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael a sut i wneud cais, ewch i www.cymoedd.ac.uk.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau