Am yr ail flwyddyn yn olynol enillodd timoedd pêl foli Coleg y Cymoedd gystadlaethau pêl foli Merched C olegau Cymru, gan guro timoedd o golegau eraill Cymru.
Nawr, maen nhw wedi ennill eu lle i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol y Gymdeithas Chwaraeon y Colegau a gynhelir yng Nghaerfaddon ym mis Mawrth.
Cynhaliwyd Twrnameint Pêl Foli Colegau Cymru yn Nhŷ Chwaraeon, Caerdydd, fel rhan o bencampwriaethau Colegau Cymru pa ddaeth dros 1000 o ddysgwyr ynghyd i gystadlu mewn un camp ar ddeg gwahanol i’w paratoi ar gyfer pencampwriaethau Prydain.
Chwaraeon ColegauCymru oedd yn trefnu’r twrnameint oedd yn cynnwys chwaraewyr o golegau Cymru yn cystadlu mewn ystod o gampau i geisio ennill eu lle i fynd ymlaen i’r rownd derfynol o bencampwriaethau Prydain.
Mae’r dysgwyr a gymerodd ran yn astudio ar raglen Lefel A ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd, rhaglen a gynigir ar y cyd â Choleg Catholig Dewi Sant Dosbarth Chwech ac Ysgol Gyfun Gatholig Cardinal Newman.
Dywedodd Sara Phipps, 17 oed o Donteg: “Roedd yn brofiad gwych ac yn hwyl. Rydyn ni gyd yn gyffrous ac yn edrych ymlaen at gystadlu yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol yng Nghaerfaddon ym mis Mawrth a gobeithio gallwn ni wneud yn well hyd yn oed na llynedd.â€
Dywedodd Dawn Webb, tiwtor Addysg Gorfforol Lefel A: “Chwaraeodd y ddau dîm yn wych ac yn benderfynol drwy gydol y diwrnod. Roedd Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth Prydain llynedd yn llawn drama a’r safon chwarae pêl foli yn rhagorol. Dwi’n edrych ymlaen yn arw i fynd eleni a gobeithio cystadlu am fedalau.â€
Y rhai a gymerodd ran yn nhîm pêl foli’r bechgyn oedd: Joe Dacey, Shaun Perry, Jack Hartly, Aled Palmer, Joe Psaila, a Jarrad Morgan.
Y rhai a gymerodd ran yn nhîm pêl foli’r merched oedd: Sara Phipps, Jess Ogden, Sinead Kirwan, Sophie Lewis, Bethan Williams, Molly Howell, Nia Higgins, Jess Newsway a Tyler Perring.