Llwyfan dysgu ar-lein yn cefnogi uchelgais busnes Ellie

Er gwaethaf yr amgylchiadau heriol sy’n wynebu dysgwyr eleni oherwydd Covid, mae dysgwr Coleg y Cymoedd gam arall yn nes at gyflawni ei huchelgais.

Ar hyn o bryd mae Ellie Wilkins, o Mountain Ash yn astudio ar y cwrs Harddwch Lefel 3 ar gampws Nantgarw ar ôl cwblhau ei chwrs Lefel 2 yn llwyddiannus ac yn ddiweddar enillodd Wobr Aspire Dermalogica, a lansiwyd ym mis Hydref.

Fel mam i blentyn prysur 4 oed, neilltuodd Ellie bob eiliad sbâr i gynnal cyfres o weithdai â ffocws ar ddiwydiant; ochr yn ochr â’i chwrs galwedigaethol a TGAU Mathemateg. Ymhlith y pynciau, a gyflwynwyd gan arbenigwyr gofal croen profiadol drwy blatfform dysgu ar-lein Dermalogica roedd protocolau Iechyd a Diogelwch, dadansoddi croen a thechnegau rhoi cynnyrch; a fydd o fudd iddi wrth iddi gyrraedd ei nod o sefydlu ei busnes Harddwch ei hun.

Wrth siarad am y cwrs, dywedodd Ellie “Rydw i’n mwynhau astudio Harddwch yn y coleg yn fawr ac rydw i bob amser yn awyddus i ddysgu rhagor o sgiliau. Roeddwn yn falch iawn o ennill y Wobr ac rwy’n awyddus i symud ymlaen i gam nesaf yr hyfforddiant  – Sgiliau Cyflogadwyedd Uwch Dermalogica. Hefyd, rydw i’n ddiolchgar i’r coleg am drefnu sesiynau tiwtorial fel ‘Sefydlu Busnes’, gan fy mod yn siŵr y byddant o fudd imi yn y dyfodol ”.

Ychwanegodd y Darlithydd Therapi Harddwch, Emma Wilson wrth longyfarch Ellie “Mae Ellie wedi dangos gwir ymrwymiad i’w hastudiaethau, gan jyglo ei gwaith cwrs a’i hymrwymiadau teuluol. Mae hi’n ddysgwr uchelgeisiol iawn ac yn ysbrydoliaeth i’w chyfoedion. Gyda’i gwybodaeth, ei sgiliau a’i hagwedd benderfynol rydw i’n siŵr y bydd hi’n cyrraedd ei nod o sefydlu ei busnes Harddwch ei hun ”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau