Mae dysgwyr o Goleg y Cymoedd yn gobeithio defnyddio’u profiad o wirfoddoli yn SkillsCymru un o ddigwyddiadau gyrfaoedd a sgiliau mwyaf Cymru, er mwyn datblygu darpar yrfa ym myd busnes.
Dewiswyd pum dysgwr sydd ar hyn o bryd yn astudio Lefel 3 Busnes yng Ngholeg y Cymoedd i wirfoddoli yn y digwyddiad ar ôl iddyn nhw fynd drwy’r broses o wneud cais a chael cyfweliad.
Bu’r egin bobl busnes, Natalia Crees, Nicola Rogers, Hannah Cattle, Emily Christopher a Sam Braithwaite yn gweithredu fel llysgenhadon yn y digwyddiad yn Arena Motorpoint yng Nghaerdydd.
Mae’r myfyrwyr busnes yn gobeithio y bydd y sgiliau ym maes cyfathrebu, trefnu a gweithio mewn tîm maen nhw wedi’u dysgu’n y digwyddiad yn eu rhoi ben ac ysgwydd uwch pobl eraill pan fyddan nhw’n ysgrifennu datganiadau personol wrth wneud cais i astudio Busnes yn y Brifysgol, neu mewn cyfweliadau ar gyfer swyddi ym myd Busnes.
Cafodd y gwirfoddolwyr eu recriwtio o golegau a darparwyr addysg ledled Cymru i fod yn llysgenhadon, yn cynnwys cyflwynwyr ffilm, cydlynwyr y cyfryngau cymdeithasol, gwerthuswyr a stiwardiaid.
Dyweododd Natalie Crees 17 oed o bentre Glynrhedynog, “Fe fwynheuais i’r cyfle a ges i wrth gymryd rhan yn SkillsCymru. Roedd y tîm yn groesawagar a charedig i’r gwirfoddolwyr. O gymryd rhan yn y digwyddiad mae fy hyder wedi codi a dw i wedi dysgu sgiliau newydd yn ystod y ddau ddiwrnod. Roedden nhw’n ddeuddydd hir iawn ond yn eithriadol o bleserus. Baswn i’n argymell hyn i ddisgyblion eraill sy’n cael cyfle i fynychu’r flwyddyn nesaf.â€
Dywedodd Nicola Rodgers, 20 oed o Bontypridd, “Roedd Skills Cymru yn brofiad gwych! Yn ogystal â chwrdd â phobl newydd, ces gipolwg uniongyrchol ar y gwahanol swyddi sydd i’w cael ym maes busnes a chael gwell dealltwriaeth o’r llwybr gyrfaol rydw i am ei gymryd.
Dywedodd Kim Purnell, tiwtor busnes yng Ngholeg y Cymoedd: “Rydyn ni wrthein bodd bod ein myfyrwyr wedi cael y cyfle i weithio yn SkillsCymru am yr ail flwyddyn yn olynol. Roedd y myfyrwyr yn llysgenhadon gwych i’r cwrs a’r coleg. Roedd hwn yn gyfle ardderchog i’n myfyrwyr ennill profiad o ddigwyddiad go wir, ei drefniadeth a’r modd y mae’n cael ei gynnal. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio ar hyn y flwyddyn nesaf eto.â€
Darparodd dysgwyr arlwyo Coleg y Cymoedd hefyd arddangosfeydd rhyngweithiol yn y digwyddiad, yn temtio’r ymwelwyr gyda dips siocled, crempogau a choctêls di-alcohol. Darparodd y dysgwyr Trin Gwallt a Harddwch arddangosfeydd rhyngweithiol o steilio gwallt a brofodd yn boblogaidd iawn.
“