Luc Jones

Dysgwr penderfynol o’r coleg yn cael lle yng Nghaergrawnt ar ôl ailsefyll arholiadau a newid cwrs i wireddu ei freuddwyd

Mae dysgwr ysbrydoledig o’r coleg a oedd yn benderfynol o gael lle yn un o brifysgolion gorau Prydain yn dathlu cael lle yng Nghaergrawnt, ar ôl treulio’r pedair blynedd ddiwethaf yn ailsefyll arholiadau ac yn newid cwrs i gyrraedd lle mae e heddiw.

Mae’r dysgwr 22 oed o Goleg y Cymoedd, Luc Jones o Fynwent y Crynwyr, wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd diwethaf yn ailsefyll arholiadau TGAU ar ôl salwch hir a threulio amser ychwanegol yn y coleg i’w alluogi i symud o BTEC i Safon Uwch mathemateg a gwyddoniaeth, er mwyn cael lle ym mhrifysgol ei freuddwydion.

Mae’r penderfyniad bellach wedi talu ar ei ganfed, gyda thair A* mewn mathemateg, mathemateg bellach a ffiseg, ac mae Luc bellach yn edrych ymlaen i ddechrau gyrfa mewn cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Caergrawnt ym mis Medi.

Wrth astudio BTEC chwaraeon yng Ngholeg y Cymoedd, sylweddolodd Luc mai datrys problemau yw ei angerdd. Caniataodd y coleg iddo ailedrych ar ei opsiynau, gan ei ysgogi i ailsefyll ei arholiadau TGAU Saesneg a mathemateg, yn ogystal â dechrau TGAU ffiseg o’r cychwyn cyntaf, er mwyn gallu astudio Safon Uwch mewn mathemateg a ffiseg. Gyda brwdfrydedd academaidd o’r newydd, roedd Luc yn benderfynol ei fod am fynd i un o brifysgolion gorau Prydain. Gan fwrw ati i gael y graddau gorau posib, ymgeisiodd Luc ar gyfer cyfleoedd allgyrsiol hefyd, er mwyn rhoi hwb i’w ddatganiad personol.

Yr haf diwethaf, cafodd ei dderbyn i ysgol haf STEM Smart (Subject Mastery and Attainment Raising Tuition) ym Mhrifysgol Caergrawnt. Rhaglen breswyl am ddim dros bedwar diwrnod yw hon, sy’n edrych ar bynciau STEM fel mathemateg, peirianneg, gwyddorau ffisegol a biolegol mewn mwy o fanylder, er mwyn helpu i ddatblygu hyder dysgwyr i wneud cais am y pynciau hyn yn y brifysgol.

Yn dilyn y profiad hwn, roedd Caergrawnt wedi mynd â bryd Luc. Meddai: “Yn ystod yr ysgol haf, cwympais mewn cariad â Chaergrawnt, y ddinas a’r brifysgol. Ro’n i’n gwybod o’r eiliad honno fy mod i am astudio fy ngradd yno.  Yn gyffredinol, nid mathemateg a’r gwyddorau yw’r pynciau mwyaf poblogaidd yn yr ysgol, felly roedd e’n grêt bod yng nghanol pobl oedd yn angerddol am yr un pethau â fi. Alla i ddim aros i fod o gwmpas pobl o’r un anian â fi am y tair blynedd nesaf.

“Dw i mor falch fy mod i wedi mynd amdani a newid fy nghymwysterau X[2 flynedd, 3/4 blynedd][EN1] X yn ôl. Er i fi gael blwyddyn gyntaf wych yn y coleg, ac ro’n i wrth fy modd gyda BTEC chwaraeon, wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen, sylweddolais i nad dyna’r llwybr cywir i fi. Ro’n i ychydig yn betrusgar am newid cwrs ar y pryd, ond roedd fy ngholeg a’r tiwtoriaid yn barod i helpu, gan wneud fy nhrosglwyddiad i Safon Uwch fel dysgwr hŷn yn rhwydd iawn – dyna’r penderfyniad gorau wnes i.”

Ar ôl gwrando ar sgwrs a gynhaliwyd gan sylfaenydd DeepMind Google, Demis Hassabis, am ddyfodol byd-eang Deallusrwydd Artiffisial, taniwyd diddordeb Luc mewn cyfrifiadureg a chafodd ei ysbrydoli i wneud cais i astudio’r pwnc yn y brifysgol, gan gynnwys yng Nghaergrawnt.

Fel y brifysgol orau yng ngwledydd Prydain i astudio cyfrifiadureg, sef cwrs israddedig mwyaf cystadleuol prifysgolion Grŵp Russell, roedd Luc yn teimlo mai dyna’r lle y dylai astudio ar ôl ei brofiad yn yr ysgol haf.

Ychwanegodd Luc: “Roedd gen i benderfyniad anodd wrth ddewis a o’n i am astudio mathemateg, ffiseg neu gyfrifiadureg yn y brifysgol, gan eu bod nhw i gyd yn bynciau sy’n datrys problemau, a hynny dw i’n ei hoffi, ond dw i’n credu mai cyfrifiadureg a Deallusrwydd Artiffisial fydd yn arwain y dyfodol. Dw i eisiau profi’r her a’r cyffro drwy fod yn rhan o hynny. Mae cyfrifiadureg hefyd yn faes mor eang, gydag opsiynau diddiwedd o ran beth allwch chi arbenigo ynddo, sy’n gyffrous iawn i fi.

“Dw i ddim yn siŵr beth fydda i’n arbenigo ynddo ar hyn o bryd, ond dw i ddim yn credu bod angen i fi wybod hynny eto – dyna’r pwynt wrth fynd i’r brifysgol. Dw i newydd gael fy nerbyn i un o brifysgolion gorau’r byd, felly dw i’n sicr yn credu fy mod i ar y trywydd cywir. Mae’n deimlad anhygoel!”


Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau