Mae Coleg y Cymoedd yn galw ar y gymuned i ymuno ag ymgyrch ‘Stoptober’

Ar ddechrau ymgyrch ‘Stoptober’ ddydd Iau, mae Coleg y Cymoedd yn galw ar ddysgwyr a staff, ynghyd â’u ffrindiau a theuluoedd i ymuno â’r her genedlaethol am 28 diwrnod, wrth i ‘Dim Smygu Cymru’ ddadlennu effaith ariannol smygu ar y gymuned leol.

Mae manteision ariannol rhoi’r gorau i smygu yn sylweddol a gall yr arian gaiff ei arbed gael effaith real a phositif ar fywyd unigolyn neu deulu. Drwy beidio ysmygu, gall smygwr 12 sigaret y dydd arbed tua £1752 y flwyddyn.

Pe byddai pob smygwr yn Rhondda Cynon Taf yn rhoi’r gorau iddi gellid arbed £80 miliwn y flwyddyn – digon i gyflogi o leiaf 2,500 o athrawon cymwysedig bob blwyddyn.

Mae Coleg y Cymoedd yn ceisio cymell y boblogaeth sy’n smygu yn y gymuned leol o 20,000 o ddysgwyr o’r Cymoedd, yn ogystal â’u staff cyflogedig o 1000, i ymuno ag ymgyrch Stoptober ar wefan Dim Smygu Cymru (www.stopsmokingwales.com/stoptober) ac i rannu’r addewid honno gyda chyfeillion a theulu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Rydyn ni’n falch iawn i gydweithio â Dim Smygu Cymru i annog ein myfyrwyr, staff a’r gymuned leol i roi’r gorau iddi ar y cyd am o leiaf 28 diwrnod a chael manteision iechyd ac ariannol.

“Maen bwysig bod ein cymunedau’n ymwybodol o’r gwasanaeth am ddim, y gefnogaeth a’r cynghorion mae Dim Smygu Cymru’n ei gynnig i’r rhai sy’n awyddus i roi’r gorau i smygu, fel gallan nhw gael y cyfle gorau i gefnu ar yr arfer am byth.”

Yn ogystal â’r manteision ariannol, bydd rhai sy’n rhoi’r gorau i smygu’n sylwi fod eu iechyd yn gwella mewn dim o dro, eu bod yn anadlu’n fwy rhwydd ar ôl 72 awr, cylchrediad y gwaed yn gwella ar ôl pythefnos, ac ar ôl blwyddyn di-fwg, mae’r risg o drawiad ar y galon yn hanner y risg sydd ar smygwyr, gan arwain i gorff mwy iachus gyda mwy o ynni.

Dywedodd Ashley Gould, Cofrestrydd Arbenigol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Dengys ymchwil bod pobl sy’n llwyddo i roi’r gorau iddi am 28 diwrnod bum gwaith yn fwy tebygol o droi cefn ar smygu am byth, felly rydyn ni’n annog smygwyr i roi hwb i’w cyrff a’u cyfrif banc drwy ymuno â her ymgyrch Stoptober.”

Caif smygwyr sy’n llofnodi i ymuno â her dim smygu fwyaf Cymru becyn i’w cynghori sut i lwyddo yn ystod sialens Stoptober, yn ogystal â chynnig cefnogaeth barhaus ac anogaeth drwy’r mis gan Dim Smygu Cymru.

Bydd Dim Smygu Cymru yn darparu cefnogaeth i rai sy’n rhoi’r gorau i smygu drwy gynnal sesiynau wyneb yn wyneb, gwasanaeth ffôn a’u rhaglen ar-lein arloesol: www.stopsmokingwales.com/online.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau