Mae creadigaethau arswydus SFX y Coleg yn llwyddiant anfarwo

Mae 20 o artistiaid effeithiau arbennig o Goleg y Cymoedd wedi bod yn brysur yn dod â sombïod ac ysbrydion yn fyw yn nigwyddiad codi arswyd X Scream eleni ym Mharc Treftadaeth y Rhondda.

Roedd digwyddiad rhyngweithiol, a gynhaliwyd ar safle hen bwll glo, yn cynnwys gwesteion yn ceisio cuddio rhag sombïod, bwystfilod a llu o gymeriadau rhyfeddod eraill, wrth iddynt gael eu herlid drwy dwneli tanddaearol hen bwll yn y Rhondda.

Dewiswyd cyfuniad o ddysgwyr HND Celfyddydau Cynhyrchu Creadigol a myfyrwyr israddedig BA Teledu a Ffilm: Gwallt, Colur ac Effeithiau Arbennig Blwyddyn 3 i weithio ar y digwyddiad fel rhan o gydweithio rhwng y Coleg a threfnwyr X-Scream.

Roedd y dysgwyr yn gyfrifol am drawsnewidiad bwystfilaidd actorion byw a fu’n cymryd rhan yn y digwyddiad, gan ddefnyddio’r technegau diweddaraf mewn effeithiau arbennig, ac roeddent hefyd yn gyfrifol am greu propiau anhygoel er mwyn ychwanegu at brofiad ‘Noson Arswyd’.

Meddai Ffion Cox, dysgwr 19 oed o’r Coleg a fu’n rhan o’r cynhyrchiad: “Roedd yn anhygoel cymryd rhan yn y digwyddiad XScream a chwarae rôl mor allweddol wrth greu’r profiad. Roedd gweld ymateb syfrdanol y cyhoedd, a gwrando ar yr holl sylwadau cadarnhaol am ein gwaith, yn hwb gwirioneddol a atgyfnerthodd fy nghynlluniau i ddilyn gyrfa yn y diwydiant.

“Rwyf wedi bod wrth fy modd yn creu sombïod a chymeriadau anhygoel dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn y Coleg ac felly mae gallu rhoi’r sgiliau hyn ar waith wedi bod yn hwyl fawr a bydd yn fy helpu i wireddu fy mreuddwyd o weithio yn y diwydiant.”

Dewisodd trefnwyr y digwyddiad, llae mae mynychwyr yn chwarae rôl aelodau anffodus o gast sy’n cael eu gorfodi i gael clyweliad ar gyfer ffilm arswyd a gyfarwyddir gan gyfarwyddwr gwallgof, helpu dysgwyr y Coleg yn dilyn cydweithio llwyddiannus ar gyfer y digwyddiad X-Scream cyntaf y llynedd.

Cysylltwyd â’r Coleg i gynorthwyo gyda’r cynhyrchiad ar ôl i drefnwyr weld ansawdd gwaith y dysgwyr ar gyfer digwyddiadau eraill yn Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys digwyddiadau Calan Gaeaf a ras sombïod.

Wedi’i leoli yng nghampws Nantgarw’r Coleg, mae’r cyrsiau arbenigol yng Ngholeg y Cymoedd, yn cyflwyno dysgwyr i’r sgiliau coluro a chreu propiau sy’n angenrheidiol yn y meysydd ffilm a theatr.

Trwy gydol y ddau gwrs, mae dysgwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith gydag amrywiaeth o gwmnïau cynhyrchu i gael ymarfer go iawn yn y diwydiant ac i hybu eu cyflogadwyedd.

Dywedodd tiwtor y cwrs, Jane Beard: “Roedd gweithio ar y digwyddiad X Scream yn gyfle gwych i’n dysgwyr ddatblygu eu talentau a chael cipolwg ar y cyfleoedd proffesiynol sydd ar gael iddynt yn y sector.

“Er bod y cwrs yn darparu sgiliau a gwybodaeth am effeithiau arbennig i ddysgwyr, profiad ar brosiectau fel y rhain, lle gall dysgwyr roi eu sgiliau ar waith, sy’n cynyddu eu hyder ac yn rhoi iddynt yr arbenigedd sydd ei angen i sicrhau lleoliadau gwaith a dechrau ar yrfa yn y diwydiant. “

Nawr yn ei ail flwyddyn, dywedodd Helen Gibbons, Rheolwr Digwyddiad X Scream, am waith dysgwyr y Coleg: “Mae X Scream yn ddigwyddiad theatrig unigryw yn Ne Cymru ac mae’n tyfu bob blwyddyn. Yn 2017 cyflwynwyd cynllun a oedd yn cynnwys cymysgedd cymhleth o gymeriadau ac roedd gan fyfyrwyr Coleg y Cymoedd ran hanfodol wrth ein helpu i greu amrywiaeth, dilysrwydd a nodweddion gweledol y cymeriadau ar gyfer ein hactorion. Mae’n fraint cael perthynas barhaus â Choleg y Cymoedd ac rydym yn gobeithio y gallwn barhau i greu profiadau arswydus gwych gyda nhw “

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau