Mae ysbryd y Nadolig yn fyw ac yn iach yng Ngholeg y Cymoedd

Mae ysbryd y Nadolig yn fyw ac yn iach yng Ngholeg y Cymoedd eleni, gyda chasgliad o dros 100 o anrhegion ar gyfer Apêl Siôn Corn Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Mae’r Coleg wedi bod yn rhan o’r Apêl Siôn Corn am nifer o flynyddoedd ac unwaith eto mae haelioni staff a dysgwyr yn ymateb i’r apêl wedi bod yn anhygoel.

Dywedodd Julie Rees, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a chydlynydd yr Apêl yn y Coleg “Cafwyd ymateb anhygoel gan weithwyr a dysgwyr – mae wedi bod yn wych.

Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi rhoi i’r Apêl. Bydd ein hanrhegion yn gwneud gwahaniaeth i gymaint o blant a’u teuluoedd y Nadolig hwn – gan ledaenu ychydig bach o hud.

Mae’r Apêl yn rhoi’r cyfle i bawb gymryd rhan, waeth beth fo cost yr anrheg,  gwyddoch y bydd yn dod â gwên i wynebau plant mewn sefyllfaoedd llai ffodus na ni.

Casglwyd yr anrhegion o bob campws a chawsant eu casglu o’r Rhondda gan Dîm Apêl Siôn Corn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; mewn digon o amser i’w cyflwyno i’r plant mewn pryd ar gyfer y Nadolig.

Gall y Nadolig fod yn amser anodd iawn i deuluoedd oherwydd incwm isel, unigrwydd cymdeithasol neu chwalu teuluoedd; mae cefnogi’r Apêl yn rhoi cymorth i’r teulu cyfan, gan leddfu’r straen a dangos i deuluoedd fod rhywun yn gofalu amdanynt.

Gan ddiolch i’r Coleg, dywedodd y Dirprwy Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc, Tina Leyshon: “Unwaith eto, hoffem ddiolch i staff a myfyrwyr Coleg y Cymoedd am eu cefnogaeth barhaus i Apêl Siôn Corn y Cyngor.

“Y llynedd, derbyniodd mwy na 2,000 o blant Rhondda Cynon Taf sy’n llai ffodus nag eraill, anrheg i’w hagor ar Ddydd Nadolig, a bydd yr un peth yn digwydd eto eleni oherwydd haelioni mawr y cyhoedd, felly diolch i Goleg y Cymoedd am helpu eraill ar yr adeg hon o’r flwyddyn.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau