Mae Coleg y Cymoedd yn falch iawn o gofnodi llwyddiant un o’i wasanaethau cymorth yn y coleg – Abbieleigh Daniels yw’r cyntaf i sicrhau gwaith yn sgil Biwro Cyflogaeth ‘Dyfodol’.
Sefydlwyd ‘Dyfodol’ i gefnogi dysgwyr yn y coleg a helpu eu paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y sector o’u dewis. Mae’r tîm yn gweithio gyda chyflogwyr hefyd gan gynnig cyfle iddynt rannu eu sgiliau â dysgwyr sydd â diddordeb yn eu diwydiant penodol.
Yn gynharach eleni, llwyddodd dwy agwedd y gwasanaeth pan ymgeisiodd y dysgwr Abbieleigh Daniels am swydd fel Cogydd Cynorthwyol gyda Chartwells ar gampws Nantgarw.
Roedd Abbieleigh, sy’n ugain oed ac yn dod o Drealaw yn y Rhondda, yn astudio ar y cwrs Goruchwylio Bwyd a Diod Lefel 3 yn y coleg pan gysylltodd â’r tîm ‘Dyfodol’ i gael help gyda’i CV.
Dywedodd Mark Cox, Rheolwr Contractau ar gyfer Grŵp Chartwells yng Ngholeg y Cymoedd, “Mae Chartwells yn falch iawn o gynnig cyflogaeth i ddysgwr Coleg y Cymoedd, gan eu helpu ar eu llwybr gyrfa.
Pan gododd swydd wag ar gyfer Cogydd Cynorthwyol ar gampws Nantgarw, cysylltais â’r tîm Dyfodol a’m cyflwynodd i Abbieleigh.
Cwblhaodd Abbieleigh dreial gwaith fel rhan o’r broses ddethol. Roedd yr adborth yn dda iawn a thair wythnos yn ddiweddarach, roeddem yn gallu cynnig y swydd iddi. Rwy’n gobeithio ei bod yn hapus yn gweithio i Chartwells ac y gallwn gefnogi dyheadau gyrfa Abbieleigh gyda chyfleoedd dilyniant a allai ddod ar gael trwy Compass Group â€.
Dywedodd Abbieleigh “Hoffwn ddiolch i dîm Dyfodol@Cymoedd am gynnig cefnogaeth imi, sydd wedi fy ngalluogi i sicrhau fy swydd gyntaf erioed. Yn ystod un o fy nghyfarfodydd gyda’r tîm, roeddwn wedi sôn yr hoffwn weithio o fewn Lletygarwch, mewn rôl blaen tŷ yn trefnu a rheoli digwyddiadau, pan gododd y swydd wag fe wnaethant gysylltu â mi i weld a fyddai gennyf ddiddordeb.
Rwy’n mwynhau fy rôl newydd a byddaf yn ddiolchgar am byth am eu cymorth. Rwyf wedi astudio yng Ngholeg y Cymoedd ers 3 blynedd ac mae’n wych cael gweithio ar gampws Nantgarw, mae’n teimlo fel na wnes i erioed adael y coleg â€!
Wrth longyfarch Abbieleigh, dywedodd Michelle Harris Cocker o’r Tîm Dyfodol â€Rydym mor falch o sut mae Abbieleigh wedi ymgartrefu yn ei rôl. Mae ei hymrwymiad yn aruthrol; mae hi’n teithio o’i chartref bob dydd i gyrraedd gwaith erbyn 7:30 a.m.
Mae hi’n ysbrydoliaeth go iawn – merch ifanc mor frwd. Bu’n bleser pur ei chefnogi. Mae Abbieleigh yn brawf y gallwch gyflawni’r potensial gyda’r gefnogaeth gywir.
Abbieleigh yw’r cyntaf i sicrhau cyflogaeth gyda Dyfodol@Cymoedd a byddwn yn parhau i’w chefnogi tra ei bod mewn cyflogaeth, gan ddarparu cefnogaeth a mynediad at ddysgu yn y gwaith i gynorthwyo ei dilyniant gyrfa.
Byddwn yn annog ein holl ddysgwyr sy’n meddwl am eu gyrfaoedd a’r camau nesaf i ddod o hyd i waith i ystyried cysylltu â’r Tîm Dyfodol er mwyn manteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael am ddimâ€.