Roedd mam i dri o Dredegar Newydd ymhlith yr enillwyr yn seremoni wobrwyo flynyddol Dysgwr y Flwyddyn sy’n cael eu cynnal gan UHOVI (Athrofa Prifysgolion Blaenau’r Cymoedd) ym Mhrifysgol De Cymru.
Astudiodd Lynda Porter gwrs Gradd Sylfaen yng Ngoleg y Cymoedd mewn Ffotograffiaeth Ddigidol:
“Dw i wedi bod yn un greadigol erioed ac wedi ymddiddori mewn celf a dylunio. R’on i’n chwilio am her newydd a gan fod y cwrs yn un rhan amser ac yn lleol, roedd e’n addas i fi a’r ymrwymiadau teuluol oedd gen i,†meddai Lynda.
“Roedd y tiwtoriaid yn rhagorol – bob amser ar gael, yn gefnogol ac anogol. Roedd galwadau eraill ar fy amser ac roedd y tiwtoriaid yn gallu bod yn hyblyg, yn barod eu cymorth ac yn fy annog drwy gydol y cwrs.
“Mae wedi rhoi hyder newydd i mi, sgiliau newydd a mwy o ddealltwriaeth o fy ngalluoedd. Rydw i’n teimlo ar ben fy nigon ar ôl ennill y wobr, d’on i ddim yn ei ddisgwyl; fe wnes i weithio’n galed ond fe fwynheais y gwaith.â€
Roedd Lynda yn un o 10 enillydd yn y seremoni a chyflwynwyr yr achlysur oedd Jagger a Woody o’r rhaglen amser brecwast ar Heart FM, ac roedd y tenor Wynne Evans wrth law i gyflwyno’r gwobrau:
Enwebwyd Lynda am wobr Dysgwr y Flwyddyn gan Peter Britton, darlithydd mewn Ffotograffiaeth Ddigidol yng Ngholeg y Cymoedd:
“Pan ddaeth Lynda ar y cwrs doedd ganddi ddim llawer o hyder i ddefnyddio camera ond yn ystod yr ail flwyddyn gweithiodd yn dda iawn a chododd safon ei gwaith i’r entrychion.
“Yr prif beth wnaeth i mi enwebu Lynda oedd ei chymhelliant. O’r holl fyfyrwyr dwi’n eu haddysgu, Lynda oedd yr ymgeisydd delfrydol gan ei bod mor gefnogol i fyfyrwyr eraill, mae’n helpu myfyrwyr eraill yn y dosbarth, fel ffotograffydd mae wedi gwneud cynnydd aruthrol ac mae nawr yn edrych ymlaen at gychwyn ar yrfa ym maes ffotograffiaeth.â€
Dywedodd Dr Robert Payne, Cyfarwyddwr Gweithredadau a Chwricwlwm Partneriaeth UHOVI:
“Mae UHOVI yn rhan annatod o ymrwymiad y Brifygol i wneud addysg yn hygyrch i bobl ymhob cymuned yn ein rhanbarth.
“Yr hyn a glywson ni ac a welson ni yn y seremoni wobrwyo oedd cyflawniadau myfyrwyr gwirioneddol ysbrydoledig a dwi mor falch ohonyn nhw ac o’n partneriaid am y gwaith caled a’r ymrwymiad y maen nhw wedi’i ddangos drwy gydol eu hastudiaethau.
“Dw i’n edrych ymlaen at weld eu datblygiad parhaus a’u llwyddiant.â€