Mam o Gaerffili drodd at nyrsio er gwaethaf ei chanser yn ennill Gwobr Genedlaethol

Mae mam i ddau o Caerffili wedi ennill gwobr i gydnabod ei dewrder a’i hymroddiad i’w hastudiaethau ar ôl dychwelyd i’r coleg fel dysgwr aeddfed yng Ngholeg Y Cymoedd tra’n brwydro yn erbyn canser a gweithredu fel prif ofalwr ei mab anabl.

Eleni, dyfarnwyd y wobr am ‘Ymrwymiad Eithriadol i Astudio’ i Emma Hughes, 36 oed, o’r Coed Duon, yng ngwobrau Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru. Mae’r gwobrau’n dathlu cyflawniadau unigolion sydd wedi cwblhau diploma Mynediad i Addysg Uwch – cymwysterau sy’n paratoi rhai heb gymwysterau traddodiadol i astudio mewn prifysgol.

Cafodd Emma ddiagnosis ffurf ymosodol o ganser pan oedd hi’n 32 mlwydd oed, arweiniodd at golli’r ddwy fron a thynnu ei ofarïau, ond cafodd ei hysbrydoli gan y gefnogaeth a dderbyniodd gan y GIG i ddilyn gyrfa o fewn y gwasanaeth iechyd.

Fel mam i blentyn ag anableddau dysgu difrifol, sbardunodd ei phrofiad iddi ystyried sut byddai ei sefyllfa hi yn teimlo i rywun oedd ag anghenion cymhleth, a chymhellodd hyn awydd ynddi i weithio ym maes ‘Nyrsio Anabledd’, fel y gallai gynnig cefnogaeth i eraill yn seiliedig ar ei phrofiadau personol ei hunan.

Gan iddi ymadael â’r ysgol yn 16 mlwydd oed heb unrhyw gymwysterau, roedd angen i Emma ddychwelyd i fyd addysg cyn y gallai ystyried gyrfa newydd. Ymunodd â Choleg y Cymoedd yn 2020 i astudio cwrs cychwynnol Mynediad Lefel 2 mewn ‘Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach,’ ac yna diploma ‘Mynediad i Addysg Uwch ym maes Gofal Iechyd’ oedd yn gwrs dwy flynedd. Galluogodd hyn hi i fynd i’r brifysgol.

Yn ôl Emma, sydd bellach yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio Nyrsio Anabledd ym Mhrifysgol De Cymru: “Tra roeddwn i’n mynd drwy fy holl driniaethau meddygol, roeddwn yn ceisio dychmygu pa mor anodd fyddai hi i bobl ag anableddau, fel fy mab, sydd yn ddi-eiriau, i fynd drwy rywbeth o’r fath. Y gwir amdani ydy bod pobl ag anawsterau o’r fath yn tueddu i gael canlyniadau llai ffafriol o ran salwch oherwydd y rhwystrau cyfathrebu sydd ganddyn nhw.”

“Does gan lawer ohonyn nhw mo’r gallu gwybyddol i sylweddoli a chyfathrebu eu bod yn teimlo’n sâl, sy’n arwain at oedi mewn diagnosis. Ar yr un pryd, gall yr ymddygiad y gallan nhw ei arddangos wneud i driniaeth fod yn heriol. Mae cemotherapi yn anodd i unrhyw un, heb sôn am rywun sydd heb fod â dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd. Roedd gwybod yn uniongyrchol pa mor anodd fyddai hi i’m plentyn i fy hun wedi fy ngwneud yn benderfynol i fod yn Nyrs Anabledd Dysgu fy hunan, fel gallwn innau fod o help i eraill. ”

Ar ôl treulio’r 15 mlynedd blaenorol yn gweithio’n rhan amser mewn canolfan alwadau, roedd mynd yn ôl i’r coleg yn ei thridegau yn codi ofn arni. Gofidiai Emma’n sut y byddai’n gallu cyfuno ei hastudiaethau â’i thriniaethau canser ataliol a’i chyfrifoldebau gofalu – rhywbeth fu’n rhwystr iddi rhag newid gyrfa flynyddoedd ynghynt.

Er mwyn galluogi hyn, cynigiodd Coleg y Cymoedd iddi gael dysgu’n hyblyg, gan ganiatáu iddi astudio a derbyn gwersi ar-lein a chadw at ddedleins aseiniadau fyddai’n ffitio o gwmpas ei hapwyntiadau ysbyty a’i rôl fel gofalwraig.

Ychwanegodd Emma: “Roeddwn i’n gofidio byddai bod heb gymwysterau TGAU wedi golygu na allai gyrfa mewn gofal iechyd byth fod yn opsiwn i mi a doeddwn i ddim yn gwybod am fodolaeth cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch, ond maen nhw wedi gweddnewid fy mywyd. Ar ôl dwy flynedd yn unig yn y coleg, rydw i wedi newid o fod yn unigolyn heb unrhyw gymhwyster i fod â 39 ‘rhagoriaeth’ ac wedi cael lle yn y brifysgol – rhywle na freuddwydiais i erioed y byddwn i’n ei gyrraedd. Byddwn yn argymell unrhyw un arall sy’n ystyried gwneud Cwrs Mynediad i fynd amdani!

“Rwyf newydd fod ar fy lleoliad cyntaf fel Nyrs Anabledd Dysgu ac wedi ei wir fwynhau. Mae’n anodd credu fy mod yn gwireddu fy mreuddwyd o ran gyrfa ac yn gorfod pinsio fy hunan weithiau. Rwy’n teimlo bod gen i lawer i’w gynnig i’r diwydiant drwy fy mhrofiadau personol ac rwy’n ffaelu aros i gael cychwyn gweithio o ddifrif. Mae ennill gwobr fel hyn nawr yn goron ar y cwbl ac mae’n braf clywed rhai eraill yn fy nghanmol am fod yn ysbrydoliaeth.”

Yn dilyn ei llwyddiant yng ngwobrau Agored Cymru, mae enw Emma bellach wedi’i gyflwyno ar gyfer gwobr genedlaethol ‘Keith Fletcher’ lle bydd yn cystadlu yn erbyn enillwyr eraill o bob rhan o’r DU. Dyfernir y wobr i fyfyrwyr Mynediad i Addysg Uwch sydd wedi arddangos yr ymroddiad mwyaf i’w cwrs.

Dywedodd Tanya Gordon, tiwtor Emma yng Ngholeg Y Cymoedd: “Mae stori Emma yn gymaint o ysbrydoliaeth, ac mae hi’n gwir haeddu’r wobr y mae hi wedi’i derbyn. Fe weithiodd mor galed dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae’n wirioneddol drawiadol sut mae hi wedi goresgyn cymaint ac wedi parhau i fod mor bositif drwy’r cyfan.”

“Rydyn ni mor falch ein bod wedi gallu helpu Emma ar ei thaith tua’r swydd mae hi wedi dyheu amdani – mae ei chynnydd wedi bod yn fwy na rhyfeddol ac rydyn ni’n sicr y bydd hi’n llwyddiant ysgubol yn ei rôl newydd!”

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn canfod rhagor am gyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yng Ngholeg y Cymoedd ymweld â’r wefan hon: https://www.cymoedd.ac.uk/courses/access-to-higher-education/

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau