Mam Uchelgeisiol yn Dychwelyd i Goleg y Cymoedd i Gyflawni Uchelgais Gyrfa

Ar ôl treulio amser yn magu ei theulu ifanc, penderfynodd Claire mai dyma’r amser iawn i ddychwelyd i Addysg Bellach i ennill cymhwyster a fyddai’n ei helpu i gyflawni ei huchelgais gyrfa, sef dychwelyd i’r gwaith mewn rôl brysur mewn busnes ag enw da sy’n tyfu.

Ym mis Medi 2020, cofrestrodd Claire ar y cwrs Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn Busnes a Chyllid ar Gampws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd. Gan weithio’n galed i reoli ymrwymiadau teulu a choleg, cwblhaodd Claire ei chymhwyster yn llwyddiannus ym mis Gorffennaf 2021 gyda phroffil Rhagoriaeth. Cysylltodd â Swyddfa Gyflogaeth Tîm y Dyfodol i ofyn am gyngor ar gyfleoedd gyrfa a chefnogaeth wrth ysgrifennu ei CV.

Mae Tîm y Dyfodol yn derbyn ceisiadau rheolaidd gan fusnesau sy’n chwilio am ymgeiswyr addas i lenwi swyddi ac adnabod dysgwyr a fyddai’n gweddu i’r swyddi hynny. Roedd hyn yn wir pan gysylltodd Michael Plaut, Cyfarwyddwr Northmace & Hendon â Swyddfa Cyflogaeth Tîm y Dyfodol i ofyn a oedd unrhyw ddysgwyr Busnes Lefel 3 a oedd yn awyddus i ymuno â’u busnes sy’n tyfu. Rhannwyd hysbyseb ar gyfer y swydd Swyddog Gweithredol Gwasanaeth Cwsmeriaid â dysgwyr a oedd bron â chwblhau eu cymhwyster busnes, ac a oedd yn chwilio am gyfleoedd gwaith ac yn addas ar gyfer y swydd.

Wrth siarad am y cyfle yn Northmace & Hendon, dywedodd Michele Harris-Cocker, Cydlynydd Dyfodol@Cymoedd “Pan gysylltodd Michael i drafod y rôl, meddyliais am Claire ar unwaith. Roedd ei sgiliau a’i rhinweddau yn cyfateb yn berffaith i’r fanyleb swydd.

Ar ôl ymgynghori â Claire, gwnaethom gyflwyno ei CV i’w ystyried. Cyrhaeddodd Claire y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ac fe’i penodwyd yn llwyddiannus. Talodd ei hagwedd benderfynol a’i gwaith caled ar ei ganfed. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried Addysg Bellach er mwyn cefnogi dilyniant gyrfa neu newid cyfeiriad yn eu gyrfa, i fynd amdani!

Nid yw hi byth yn rhy hwyr yn wir. Rwy’n dymuno pob llwyddiant i Michael a’i dîm yn Northmace ar gyfer y dyfodol. Mae hi bob amser yn wych clywed straeon llwyddiant yn ymwneud â thwf busnes yn enwedig yn ystod cyfnod mor ddigynsail.

Mae rôl Claire fel Swyddog Gweithredol Gwasanaeth Cwsmeriaid, yn cynnwys prosesu archebion ac anfonebau masnachol ac ymdrin â chwynion cwsmeriaid. Hefyd, mae’r rôl wedi rhoi profiad iddi o gyllid a rheoli credyd ynghyd â gwerthiant rhyngwladol a phopeth sy’n gysylltiedig â chludo cynnyrch dramor. Mae Claire yn parhau i jyglo teulu a gweithio ochr yn ochr ag astudio Gradd Sylfaen PDC mewn Rheolaeth Fusnes yng Ngholeg y Cymoedd.

Wrth sôn am ei phenodiad diweddar dywedodd Claire “Rwyf am ddiolch i Swyddfa Gyflogaeth Tîm y Dyfodol yng Ngholeg y Cymoedd, yn enwedig Michele am fy mharu â rôl Swyddog Gweithredol Gwasanaeth Cwsmeriaid yn Northmace ac am fy annog i ymgeisio. Mae Michael, Tracey a’r tîm i gyd wedi bod yn groesawgar ac yn gefnogol, nid yn unig yn fy rôl newydd gyda’r cwmni, ond wrth gefnogi fy addysg barhaus. Diolch i bawb. ”

Yn dilyn penodiad Claire dywedodd Michael Plaut “Mae Northmace yn falch iawn o fod wedi cydweithio â Choleg y Cymoedd i recriwtio aelod diweddaraf y tîm. Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda Choleg y Cymoedd a hoffem ddiolch yn arbennig i Michele Harris-Cocker am ei holl gymorth. Mae Northmace yn falch o groesawu Claire i’w rôl newydd ”.

Cwmni o Gaerdydd yw Northmace (<https://www.northmace.com/>) sy’n arbenigo mewn creu offer ac ategolion proffesiynol a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer ystafelloedd gwesty.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau