Pan adawodd Megan Evans, sy’n 19 oed, yr ysgol roedd hi’n awyddus i ddilyn cwrs Busnes, gan ei bod wedi magu diddordeb yn y pwnc yn yr ysgol ac yn gobeithio dilyn gyrfa yn y maes hwnnw.
Roedd Megan wedi clywed pethau gwych am astudio yng Ngholeg y Cymoedd gan ffrindiau a oedd wedi astudio yno a mynychodd ddigwyddiad agored. Roedd campws Ystrad Mynach yn lleoliad delfrydol, yn agos at ei chartref yng Nghaerffili ac yn hawdd ei gyrraedd.
Wrth gyrraedd y coleg, roedd yr awyrgylch wedi creu argraff ar Megan; roedd pawb yn gyfeillgar ac yn hynod gymwynasgar. Cofrestrodd ar y Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes gan y byddai’r cwrs yn rhoi blas iddi ar wahanol agweddau ar Fusnes.
Mwynhaodd Megan fanteision astudio yn y coleg – yr ymdeimlad o ryddid a bod yn gyfrifol am ei hastudiaethau ei hun, ond gyda chyngor a chefnogaeth tiwtoriaid, os oedd angen. Roedd yr anogaeth a’r arweiniad a gafodd gan y tiwtoriaid a’r cyfoedion yn help enfawr gyda’i haseiniadau ac roedd hi bob amser yn hapus gyda’r canlyniadau – “rydych chi’n cael yn ôl yr hyn a rowch yn eich gwaithâ€.
Wrth dderbyn ei chanlyniadau dywedodd Megan “Roeddwn wrth fy modd gyda fy nghanlyniadau D * D * D, – byddwn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un! Roedd pob diwrnod yn her wahanol gydag ystod o waith ymarferol ac ysgrifenedig, ond mae’r cwrs wedi fy mharatoi ar gyfer gwaith llawn amser. Rydw i wedi ennill sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn fy ngwneud yn fwy cyflogadwy.
Hefyd, mae’r cwrs wedi helpu gyda fy natblygiad personol, gan roi’r hyder imi gyflwyno o flaen pobl a’r gred ynof fy hun y gallaf lwyddo wrth chwilio am yrfa fy mreuddwydion â€.
Wrth longyfarch Megan, dywedodd y Tiwtor Cwrs, Yvonne Morris “Mae Megan yn ddysgwr hynod o weithgar a deallus, sydd wedi creu argraff ar ei thiwtoriaid gyda’i hagwedd benderfynol, ei moeseg waith a’i hagwedd wylaidd tuag at ei llwyddiant. Mae ansawdd a safon y gwaith a gynhyrchir gan Megan yn ganmoladwy ac mae’n haeddiannol iawn o’r radd D * D * D a gyflawnwyd. Dymunwn pob llwyddiant iddi yn y dyfodol
“