Mae Megan James, 18, o Dreharris , ar drywydd gyrfa gyffrous ym myd y theatr a ffilm ar ôl bod y dysgwr cyntaf o Goleg y Cymoedd i ennill lle yng Ngholeg Ffasiwn Llundain. Ar ôl ennill gradd rhagoriaeth yn ei chwrs Diploma Estynedig mewn Gwallt, Coluro ac Effeithiau Arbennig, mae Megan wedi sicrhau lle i astudio Gwallt, Coluro a Prostheteg ar gyfer Perfformiad yn y coleg byd-enwog hwn y mae ei gyn-fyfyrwyr yn cynnwys Jimmy Choo sy’n enwog am gynllunio esgidiau.
Breuddwyd Megan ydy gweithio ar gynllunio gwisgoedd ar gyfer cynyrchiadau sioeau cyfnod ar lwyfannau’r West End.
Dywedodd: “Er yr hoffwn weithio ym mhob ran o’r diwydiant heb gyfyngu fy hun ar hyn o bryd, rydw i wir wedi mwynhau llunio wigiau a gwisgoedd dros y flwyddyn ddiwethaf, sy’n rheswm arall dros ddewis astudio yn Llundain gan y byddwn wrth fy modd yn gweithio ar wigiau mewn perfformiadau mawr yn y West End ”.