Balŵns a baneri a oedd yn sail i ddathliadau pen-blwydd Meithrinfa Coleg y Cymoedd yn 25 oed ar gampws Ystrad Mynach.
Ym 1995, cydnabu’r coleg y rhwystrau a wynebai’r rheini a oedd yn dymuno dychwelyd i addysg wrth fagu teulu a darparodd yr adnoddau i’w gwneud yn haws; gan gynnig cefnogaeth ac opsiynau gofal plant fforddiadwy.
Sefydlwyd y feithrinfa ddydd bwrpasol ar y campws i gynnig cyfleusterau gofal i blant dysgwyr y coleg, ond yn fwy diweddar mae wedi ymestyn y ddarpariaeth er mwyn cynnwys aelodau staff. Mae’r Feithrinfa’n cynnig gofal plant o ansawdd uchel sy’n darparu ystod eang o gyfleoedd chwarae a dysgu i blant rhwng 10 mis a 5 oed.
I ddathlu’r pen-blwydd, cynhaliwyd diwrnod o weithgareddau, gan ddechrau gyda chinio ym Mwyty Scholars, a addurnwyd ag addurniadau arian. Ychwanegodd y plant at y thema wrth wisgo hetiau parti arian, yr oeddent wedi’u creu eu hunain ar gyfer yr achlysur.
Ar ôl cinio parhaodd y dathliadau gyda phrynhawn o chwarae meddal a ddarparwyd gan Mini Mayhem o Donyrefail, gan gynnwys castell bownsio.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Campws, Alison Roberts, “Mae ein Meithrinfa yn adnodd gwych sy’n cadw rhieni sy’n dysgu yn agos at eu plant wrth ddarparu gofal diogel, fforddiadwy fel y gall rhieni ganolbwyntio ar waith y dosbarth tra eu bod ar y campws. Mae nyrsys meithrin cymwysedig yn gweithio yn y feithrinfa, sydd wedi’i chofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) â€.
Dywedodd Jay Humphris, aelod o staff ar gampws Ystrad Mynach sy’n defnyddio’r Feithrinfa “Rwy’n gweld bod y feithrinfa’n groesawgar iawn, yn cael ei rhedeg yn broffesiynol ac yn rhan fawr o ddatblygiad dysgu fy mhlentyn bach. Mae’r staff i gyd yn dda iawn gyda’r plant, yn darparu gwahanol weithgareddau bob dydd ac yn sicrhau eu bod yn hapus. Rwyf wedi gweld gwahaniaeth enfawr yn hyder fy mhlentyn ers iddo ddechrau ym mis Medi a hynny oherwydd staff anhygoel yn y feithrinfaâ€.