Cofrestrodd Joshua Morgan, sy’n 20 oed ac yn dod o’r Porth, ar gwrs Mynediad Galwedigaethol yng nghampws y Rhondda yn 2015 ac nid yw wedi edrych yn ôl. Dros y 3 blynedd diwethaf mae wedi symud ymlaen i’w gwrs presennol, y Diploma Lefel 3 mewn Busnes, sydd wedi agor drysau i gyfleoedd cyffrous.
Yn ystod ei amser yn y Coleg Joshua, gwnaeth gais llwyddiannus i fynychu Ysgol Haf yr Academi Fasnach Ryngwladol, cyfle a gynigir i ddysgwyr yn y coleg, gan yr Adran Masnach Ryngwladol.
Lansiodd llywydd y Bwrdd, Dr Liam Fox AS, yr ysgol haf breswyl ryngwladol gyntaf a gynhaliwyd yn Llundain, sy’n cynnig cyfle unigryw i ddysgwyr gael cipolwg ar fasnach a buddsoddi rhyngwladol. Hefyd, mae dysgwyr yn dysgu sgiliau defnyddiol ar gyfer gyrfa yn y dyfodol; ac mae’n fuddiol ei gynnwys ar CVau wrth wneud cais am swyddi.
Yn ystod y digwyddiad llawn gweithgareddau, clywodd Joshua gan arbenigwyr masnach ryngwladol â phroffil uchel, cyfarfu ag arweinwyr busnesau llwyddiannus ac ymgysylltodd ag uwch swyddogion y llywodraeth. Roedd hefyd yn rhan o’r tîm buddugol yn yr ‘Export Challenge‘ yn arddull ‘The Apprentice’ ac enillodd ‘darn arian’ a thystysgrif yr Adran Masnach; un o ddim ond 15 o bobl sydd wedi derbyn y darn arian hwn.
Fel cyn-fyfyrwyr yr Ysgol Haf Masnach Ryngwladol, gwahoddwyd Joshua i fynychu Prifysgol Abertawe yn ddiweddar, fel llysgennad, i rannu ei brofiadau gyda dysgwyr eraill. Yn ogystal, gofynnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrh. Alun Cairns AS i gael cyfarfod â Joshua i drafod ei amser ar Raglen yr Academi Fasnach genedlaethol.
Wrth siarad am ei gyfraniad gyda’r Rhaglen Academi Fasnach Genedlaethol, dywedodd Joshua Rydw i’n falch iawn fy mod wedi bod yn llysgennad ar gyfer y prosiect yn Abertawe ac wedi siarad â rhai o’r myfyrwyr am fy mhrofiad ar y rhaglen. Roeddwn yn gallu eu cynghori ar sut i gyflwyno eu cynnyrch i’r beirniaid. Dysgais gymaint o’r rhaglen a rhaid diolch i Rhian Morris, fy nghyfarwyddwr, am fy nghyfeirio at y cyfle gwych hwn. Roeddwn i’n gyffrous i gwrdd â’r Gwir Anrh. Alun Cairns i siarad ag ef am y rhaglen “.
Ychwanegodd tiwtor Joshua, Rhian Morris, “Mae’r adran yng nghampws y Rhondda yn hynod falch o gyflawniadau Joshua. Mae wedi gwneud cynnydd rhagorol yn bersonol ac yn academaidd ers cofrestru yn y coleg ac mae’n amlwg wedi creu argraff ar y rhai sy’n rhedeg y rhaglen gyda’i sgiliau. Fe’i dewiswyd fel llysgennad ar gyfer y rhaglen, sy’n gofyn am y rhinweddau i weithio fel rhan o dîm. Bydd cyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru bob amser yn ddiwrnod i’w gofio Josua. Dymunwn y gorau iddo ar gyfer ei yrfa yn y dyfodol a’i gyfranogiad gyda’r Rhaglen Fasnach Ryngwladol “.
“