Menyw ifanc ddewr o’r Cymoedd yn nenblymio ar gyfer elusen

Mae merch yn ei harddegau o Gymoedd y De wedi mynd yn bell i godi arian i elusen ar ôl neidio 12,000 troedfedd allan o awyren i helpu pobl sy’n brwydro clefyd y galon.

Plymiodd Cyrstal Liu, merch un ar bymtheg oed o’r Porth, drwy’r awyr ar ran Sefydliad Prydeinig y Galon.

Cyflawnodd y dysgwr coleg, sy’n astudio Safon Uwch yng Ngholeg y Cymoedd, y naid yn Abertawe gyda Skydive Abertawe ac mae eisoes wedi codi dros £400 diolch i’w dewrder.

Fel rhan o’r dasg codi arian ar gyfer elusen sy’n rhan o’i hastudiaethau coleg, penderfynodd Crystal blymio yn syth i’r pen dwfn gyda nenblymiad tandem.

Esboniodd Crystal: “Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth gwahanol ac unigryw er mwyn codi arian oherwydd yr oeddwn wir eisiau herio fy hun. Nid oeddwn erioed wedi gwneud unrhyw beth fel hyn ac roeddwn i’n meddwl y byddai’n ffordd wych o godi arian. “

Er nad oedd erioed wedi gwneud unrhyw beth tebyg iddo o’r blaen, nid oedd Crystal yn poeni am y posibilrwydd o neidio allan o awyren 12,000 troedfedd uwchben y ddaear; yn hytrach canolbwyntiodd ar y ffaith y byddai’n helpu achos da.

Dywedodd: “Yn ystod y cyfnod cyn y digwyddiad, nid oeddwn yn nerfus a dweud y gwir. Er mwyn tynnu fy sylw meddyliais am sut y byddai’r arian a godir yn gwneud gwahaniaeth ac yn helpu bywydau pobl eraill, ond cychwynnodd y nerfau yn bendant ar y diwrnod!

“Er fy mod ar bigau’r drain yn union cyn y naid, roeddwn wedi fy nghyffroi’n bennaf gyda’r posibilrwydd o gymryd rhan mewn profiad mor anhygoel, yn enwedig gan wybod fy mod yn helpu achos gwirioneddol werth chweil yn y broses. Roedd yr nenblymio ei hun yn gwbl anhygoel ac yn sicr mae’n rhywbeth na fyddaf byth yn ei anghofio. “

Cwblhaodd Crystal y nenblymio fel rhan o Fagloriaeth Cymru yn y Coleg, lle’r oedd gofyn iddi gymryd rhan yn ‘Her y Gymuned’ fel rhan o grŵp, gan godi arian i elusen a ddewiswyd gan Crystal a’i dau ffrind arall.
Gallai pob un o’r dysgwyr godi arian ym mha bynnag ffordd yr oeddent ei eisiau, ond yn hytrach na dewis dull mwy traddodiadol o godi arian, roedd Crystal am neidio allan o awyren er syndod y tiwtoriaid a’i chyd-fyfyrwyr.
Yn dilyn ei nenblymio, mae’r mentrwr yn awr yn gobeithio ymgymryd â champau eithafol eraill yn y dyfodol, gyda chynlluniau ar gyfer naid byngi nesaf ar ei rhestr.

Yn y pen draw, cododd y grŵp bron i £600 ar gyfer Sefydliad Prydeinig y Galon, sydd yn gwneud ymchwil arloesol i’r galon yn bosibl.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau