Mae Dilysu Aml-Ffactor (neu MFA) yn haen ddiogelwch ychwanegol ar gyfer diogelu cyfrifon ar-lein. Bydd angen i bob aelod o staff a dysgwr ddefnyddio MFA wrth fewngofnodi i wasanaethau coleg ar-lein.
Gwyliwch y fideo ‘Cyflwyniad i MFA’ isod, ac yna’r ‘Fideo Gosod’ sy’n berthnasol i’r ddyfais rydych chi’n berchen arni. Os cewch unrhyw anawsterau yn ystod y broses osod, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau – gwiriwch yr adran Cwestiynau Cyffredin cyn cysylltu â Gwasanaethau TG.
Cyflwyniad i MFA
Mae gennym ddulliau eraill o MFA y gallwn eu defnyddio, felly cysylltwch â gwasanaethau TG am gyngor. Os nad oes gennych ffôn clyfar, mae’n debyg bod Gwasanaethau TG yn ymwybodol, a byddant yn cysylltu â chi drwy e-bost.
Oes, cliciwch ar y ddolen ‘Rydw i eisiau defnyddio ap dilysu arall’ yn ystod y broses gofrestru. Sylwch y byddwn ond yn darparu cefnogaeth ar gyfer Microsoft Authenticator.
Nac oes. Mae ap dilysu Microsoft yn rhaglen syml iawn sy’n rhoi hysbysiadau gwthio i’ch ffôn clyfar. Ni all y coleg gael eich rhif ffôn symudol nac unrhyw fath arall o wybodaeth bersonol o’r ap hwn. Am ragor o wybodaeth ewch i: https://support.microsoft.com/cy/account-billing/common-questions-about-the-microsoft-authenticator-app-12d283d1-bcef-4875-9ae5-ac360e2945dd https://support.microsoft.com/en-us/account-billing/common-questions-about-the-microsoft-authenticator-app-12d283d1-bcef-4875-9ae5-ac360e2945dd
Nac oes, bydd angen i chi ddefnyddio’r ap wrth fewngofnodi i wasanaethau’r coleg ar-lein. Cysylltwch â Gwasanaethau TG os byddwch chi’n tynnu’r ap yn ddamweiniol neu’n prynu ffôn newydd.
Cysylltwch â Gwasanaethau TG.