Myfyriwr o Gaerffili yn cyfnewid ystafell ddosbareth am y ciwi

Mae Coleg y Cymoedd yn dathlu llwyddiant dysgwyr sy’n cyflawni amrywaith eang o gymwysterau galwedigaethol wrth iddyn nhw symud ymlaen i brifysgol a chyflogaeth .

Ar draws ei bum campws, mae’r coleg yn cynnig y dewis ehangaf o gyrsiau galwedigaethol yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Taf ac mae’n dathlu bod nifer fawr o ddysgwyr yn cyflawni’r graddau uchaf a chyrraedd prifysgol neu lwyddo i gael swydd.

Ymhlith y rhai gafodd ganlyniadau nodedig mae Gethin Dibben o Donpentre a gyflawnodd bortffolio D*D*D* (Rhagoriaeth Driphlyg*) yn y Diploma estynedig BTEC mewn TG ac mae wedi sicrhau ei le ym Mhrifysgol De Cymru i astudio gradd mewn Diogelwch Cyfrifiadurol.

Dywedodd Gethin “Dw i wrth fy modd i ennill dair rhagoriaeth serennog yn fynghwrs TG BTEC. Rhaid diolch i’r coleg am fy nghynorthwyo i gyflawni fy nharged o fynychu prifysgol.”

Bydd Suraj Patel 19 oed o Rymni yn mynd i Brifysgol Birmingham i astudio Rheoli Busnes a Marchnata ar ôl ennill gradd uchaf y portffolio D*D*D* Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 BTEC mewn Busnes.

Dyweddodd Suraj “Dw i’n ecstatig gyda fy nghanlyniadau. Mae’r Coleg wedi rhoi’r rhyddid i mi ond hefyd llawer o gymorth a chyfleoedd. Roedd cymryd rhan mewn gweithgareddau menter a gwneud profiad gwaith, ar ben y cymwysterau, yn golygu bod geni’r holl sgiliau sydd eu hangen arna i i fynd i’r brifysgol o fy newis.”

Mae’r llwyddiant hefyd yn cynnwys nifer uchel o ddysgwyr sydd wedi defnyddio’u cymwysterau i gael cyflogaeth llawn amser. Enillodd Cerys Cantwell o Ystrad Mynach DDM (Rhagoriaeth Ddwbl , Teilyngdod) yn Lefel 3 BTEC mewn Busnes a dod o hyd i swydd llawn amser gyda chwmni ynni adnewyddadwy o fewn wythnos i dderbyn ei chanlyniadau.

Dywedodd Cerys: “Dw i wrth fy modd gyda fy nghanlyniadau, fe wnes lawer yn well na’r disgwyl. Dw i’n hapus iawn mod i wedi dod o hyd i waith perthnasol mor gyflym a dw i’n edrych ymlaen at y dyfodol. Fe wnaeth fy nhiwtor fy helpu drwy gydol y cwrs; dw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi gallu ei wneud hebddi hi!”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau