Ers pan oedd yn ifanc roedd Callum Jenkins yn gwybod bod ganddo dalent i drin gwallt ac am ddilyn gyrfa yn y proffesiwn. Yn 16 oed, ymrestrodd ar gwrs trin gwallt yn ei goleg lleol ac ar ôl ei gwblhau bu’n gweithio am nifer o flynyddoedd mewn salon yng Nghastell-nedd.
Ar ôl iddo gael ei ad-leoli iardal Rhondda Cynon Taf, penderfynodd wella ei gymwysterau academaidd ac yn 2013, ymrestrodd ar gwrs Therapi Harddwch lefel 2 ar gampws Rhondda Coleg y Cymoedd. Yn yr un flwyddyn ymrestrodd ar raglen Trin Gwallt lefel 3 ar Gampws Nantgarw i gwblhau ei gymwysterau.
Fe wnaeth Callum fwynhau’r cyrsiau yn fawr iawn a gyda chefnogaeth ei diwtoriaid, fe wnaeth ystyried cyfleoedd i redeg ei fusnes ei hun. Ac yntau’n angerddol am gynnig profiad unigryw i’r gymuned, sefydlodd Callum Evolve Hair & Beauty ym mis Gorffennaf 2014.
Gan gofio pwysigrwydd ei brofiadau hyfforddi ei hun, cysylltodd Callum â’r coleg i gynnig lleoliadau profiad gwaith i fyfyrwyr yn ei salon. Dywedodd Denise Thomas, tiwtor ar y cwrs â€Roedd Callum bob amser yn fyfyriwr awyddus iawn a’i sgiliau delio â’r cleientiaid heb eu hail. Mae Evolve yn cynnig lleoliad gwaith o’r radd flaenaf i’n myfyrwyr cyfredol a dw i’n hyderus y bydd Callum yn sicrhau eu bod yn cael pob cyfle i ymarfer eu sgiliau dan oruchwyliaeth, mae’n steilydd talentog.â€
Lleolir salon Evolve yng nghalon y gymuned ac mae’n cynnig yr ystod lawn o driniaethau trin gwallt a harddwch ar gyfer dynion a merched. Dywedodd Callum: “Bu’n freuddwyd gen i erioed i fod yn berchen ar salon. Pan es i nôl i astudio yng Ngholeg y Cymoedd, roedd fy nhiwtoriaid yn gefnogol iawn, yn fy nghyfeirio at gyrsiau ychwanegol a chyngor proffesiynol ar redeg busnes. Dw i’n ffodus i gael cydweithwyr sy’n gymwys i gynnig triniaethau harddwch megis triniaethau ar yr ewinedd, cwyro’r wyneb, tintio blew llygaid/aeliau, ymestyn blew llygaid a chwistrellu lliw haul ar y croen ac maen nhw i gyd yn gweithio yn fy salon ac mae hyn yn golygu ein bod yn gallu cynnig pecyn harddwch cyflawn i’r cleientiaid.
“