Myfyrwraig dalentog Lefel A yn taro’r nodyn uchaf

Ar ôl misoedd o baratoi, bu dysgwyr o gampws Aberdâr yn cynnal dathliad o’u llwyddiannau mewn noson ‘Carped Coch’ yn gynharach yn y mis.

Croesawyd pawb o’r dysgwyr, y staff a’r gwesteion yno gan Diwtor y Cwrs, Karen Fenn, a bu’n egluro sut y daeth yr achlysur i fodolaeth.

Ar gychwyn y flwyddyn academaidd roedd dysgwyr ar y cwrs Trin Gwallt a Harddwch yn cydweithio fel grŵp ar eu huned Menter ym Magloriaeth Cymru, gan wneud ymchwil ar wneud defnydd o ystafelloedd. Canlyniad hyn oedd y syniad o drefnu digwyddiadau – ac arweiniodd hynny i’r syniad o gynnal Noson Proms, lle byddai cyfle i gydnabod gwaith pawb o’r dysgwyr am eu gwaith.

Cyflwynwyd gwborau cyntaf y noson gan un o’r tiwtoriaid, Hayley Broom, a bu hi’n llongyfarch y dysgwyr am eu gwaith drwy’r flwyddyn ac am yr arddangosfeydd oedd i’w gweld yn ystod yr achlysur. Pwysleisiodd fel yr oedd rhai wedi goresgyn anawsterau i ennill eu graddau a bu’n eu hannog i barhau â’r gwaith da. Aeth y drydedd wobr i Natasha Malpas, yr ail i Tiffany Evans a dyfarnwyd Kelly Dempsey yn Fyfyrwraig y Flwyddyn Lefel Un. Diolchodd dwy o ddysgwyr Lefel Un, Chloe Y. Jones a Melissa Scacia, i’w tiwtoriaid i gyd am y sgiliau roedden nhw wedi eu gyflwyno i’r myfyrwyr, gan gyfeirio’n arbennig at Sam Roach, oedd yn anffodus yn ffaelu bod yno.

Aeth y gwobrau Lefel Dau fel â ganlyn: Yn drydydd, Jodie Davies am ei gwybodaeth gyffredinol ragorol ym Magloriaeth Cymru; yn ail roedd Sarah Edevane, am ei dyfalbarhad yn cwblhau ei chymhwyster; ac yna cyhoeddwyd mai Myfyrwraig y Flwyddyn Lefel Dau oedd Laura Williamson, sydd ag ‘addewid i fynd ymhell yn y diwydiant’.

Cyn cyflwyno’r Gwobrau Harddwch, bu’r tiwtor Denise Williams yn llongyfarch y dysgwyr ar eu gwisgoedd ac yn pwysleisio mor anodd fu’r gwaith o ddewis enillwyr. Dyfarnwyd Shauna Maudy yn drydydd, Stephanie Phillips ddaeth yn ail, ac yna aeth y wobr am Fyfyrwaig y Flwyddyn i Hannah Darch, oedd wedi gweithio’n galed a dyfalbarhau i gyflawni’r cymhwyster. Roedd hi hefyd wedi cyfrannu i ddigwyddiadau allanol ac roedd hi bob amser yn gwenu! Gwnaed y diolchiadau gan Sarah Stone ac Angharad Vaughan, dwy o ddysgwyr Lefel 2, a diolchwyd yn arbennig i Karen Fenn a Pam Wilson am eu cymorth drwy’r flwyddyn gyfan.

Diolchwyd i staff nifer o adrannau eraill am fynychu ac am ei cymorth gyda’r Proms, ac i ddysgwyr y cwrs Lletygarwch ac Arlwyo am y lluniaeth ac i’r DJ am gynnal y disgo.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau