Myfyrwraig o Ferthyr yn ennill yn y gwobrau addysg cenedlaethol

Mae menyw ifanc o’r Cymoedd wedi sgorio’r marciau uchaf yn y gwobrau addysg cenedlaethol ar ôl creu argraff ar y beirniaid gyda’i chanlyniadau A * / A a’i ffocws cymunedol.

Wynebodd Megan Howells, merch 18 oed o Ferthyr Tudful, gystadleuaeth gref gan rai o fyfyrwyr Safon Uwch mwyaf talentog y wlad er mwyn ennill Gwobr Safon Uwch Cymru yn y Gwobrau Addysg Prydeinig.

Enillodd y dysgwr talentog, a astudiodd yng Ngholeg y Cymoedd, y wobr anrhydeddus mewn seremoni gala ym Manceinion am ei pherfformiad addysgol eithriadol yn y coleg, ar ôl ennill 2 gradd A * ac 1 radd A yn ei Safon Uwch y llynedd, wedi proffil A * yn ei harholiadau TGAU.

Wrth gystadlu yn erbyn pedwar ymgeisydd arall ar y rhestr fer yn y categori Cymru, dewiswyd Megan, sydd bellach yn astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen, yn enillydd cyffredinol ar ôl creu argraff ar y beirniaid gyda’i llwyddiant academaidd a’i hymdrechion gwirfoddol.

Wrth siarad am ei phrofiad, meddai Megan: Roeddwn wrth modd yn ennill y wobr hon. Daeth yn yr amser perffaith imi yn ystod fy ychydig wythnosau cyntaf yn Rhydychen. Fel llawer o fyfyrwyr, dechreuais deimlo’n ansicr, yn poeni fy mod yn cymryd lle rhywun mwy haeddiannol. Rhoes derbyn y wobr hon hwb i’m hyder gan fy atgoffa fy mod wedi gweithio’n galed i gyrraedd Rhydychen.

“Cadarnhaodd y syniad, os ydych chi’n gweithio’n galed ac yn parhau i fod yn ymroddedig, gallwch gyflawni pethau gwych, ac mae hyn wedi rhoi agwedd gadarnhaol imi ar gyfer y tymor, gan roi cymhelliant ychwanegol i mi.”

Mae Gwobrau Addysg Prydain (BEA), a lansiwyd yn 2017, yn cydnabod cyflawniadau academaidd ac allgyrsiol rhagorol myfyrwyr, a dyma’r unig ddigwyddiad yn y DU sy’n dathlu llwyddiant unigol ar lwyfan cenedlaethol.

Mae’r seremoni wobrwyo unigryw wedi’i chynllunio i wobrwyo myfyrwyr sydd wedi rhagori yn eu hastudiaethau -  ac mae wedi’i rhannu’n bedwar categori – TGAU, Safon Uwch, Galwedigaethol a Gradd – yn ogystal â hyrwyddo’r rhai sydd wedi rhagori y tu allan i academia mewn meysydd fel chwaraeon, cerddoriaeth a gwaith gwirfoddol.

Creodd ymrwymiad Megan i helpu eraill argraff ar y beirniaid. Mae Megan wedi ymwneud â nifer o fentrau cymunedol a gweithgareddau codi arian y tu allan i’r coleg, gan gynnwys gwaith gwirfoddol mewn banciau bwyd, ysgolion a gwasanaethau cefnogi ceiswyr gwaith. Mae hi hefyd wedi rhedeg dau hanner marathon i godi arian i Tenovus Cancer Care a’r elusen Wheelchair Access , yn ogystal â llu o wobrau am siarad cyhoeddus.

Breuddwyd Megan, sy’n angerddol am gyfiawnder cymdeithasol a helpu’r rhai na allant eu helpu eu hunain, yw bod yn fargyfreithiwr. Gan ei bod yn gobeithio arbenigo mewn cyfreithiau hawliau dynol, mae hi wedi mynd ymlaen i sicrhau tair wythnos o brofiad gwaith yr haf hwn yn y swyddfa hawliau dynol yn Ghana lle bydd hi’n cael profiad uniongyrchol o helpu unigolion mewn angen.

Meddai Ian Rees, Cyfarwyddwr Cyfadran Safon Uwch Coleg y Cymoedd: “Mae Megan yn ddisgybl hynod o weithgar, dibynadwy ac ysgogol sy’n haeddu’r wobr hon yn bendant. Mae ei chanlyniadau gwych yn dyst i’w hymdrech rhagorol, sy’n ymestyn y tu allan i’r byd academaidd gyda’i hymrwymiad i helpu’r gymuned a cheisio cefnogi’r rheiny o’i chwmpas.

“Oherwydd ei dawn eithriadol a’i hawydd i ddysgu, nid oes gennym unrhyw amheuaeth y bydd Megan yn gwneud ei marc ar amgylchedd academaidd hynod drylwyr gradd yn y Gyfraith yn Rhydychen. Dylai ymfalchïo yn ei chyflawniadau hyd yn hyn a dylai wybod bod pawb yn y coleg yn falch iawn ohoni. “

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau