Myfyrwraig o’r Cymoedd ymysg goreuon y DU yn rownd derfynol WorldSkills

Cafodd myfyrwraig o Goleg y Cymoedd ei henwi fel un o ‘oreuon y DU’ yn rownd derfynol cystadleuaeth genedlaethol i ddathlu sgiliau ac mae ganddi nawr siawns i gystadlu ar lwyfan byd-eang.

Gwobrwywyd medal Arian i Ashleigh Marie Simmons, 19, o Drelewis, yn y categori Trin Gwallt yn rownd derfynol WorldSkills y DU, gafodd ei gynnal yn y Sioe Sgiliau fawreddog yn Birmingham rhwng y 19eg a’r 21ain o Dachwedd.

Mae cystadlaethau WorldSkills y DU yn ysbrydoli pobl ifanc ac oedolion i fod yn uchelgeisiol wrth fireinio’u sgiliau i’r lefel uchaf a dyma uchafbwynt y Sioe Sgiliau. Yn ystod y rownd derfynol yn yr NEC, bu dros 650 o brentisiaid, gweithwyr cyflogedig a dysgwyr mwyaf talentog y DU – gan gynnwys 82 o Gymru – yn brwydro mewn dros 40 cystadleuaeth yn eu sgiliau dewisol gan amrywio o waith plymwr a choginio i gynllunio gwefannau a gosod blodau.

I ennill eu lle yn rownd derfynol WorldSkills y DU, roedd rhaid i bob dysgwr/wraig gystadlu yn erbyn eu cyd-ddysgwyr o sefydliadau ar draws y DU mewn cyfres o gystadlaethau rhanbarthol.

Roedd y broses ddethol ar gyfer Sgwad y DU hefyd yn cael ei chynnal yn ystod y Sioe Sgiliau eleni ac fe enwyd 20 cystadleuydd Cymreig fel rhan o’r sgwad o 148. Bydd yr unigolion hyn nawr yn cael siawns i gystadlu am safle yn y tîm fydd yn cynrychioli’r DU yn WordSkills Abu Dhabi 2017.

Dywedodd Ashleigh Marie: “Mae trin gwallt yn rhywbeth roeddwn i wastad wedi bod eisiau ei wneud ac rwy’n gobeithio dal ati i’r dyfodol. Fel rhan o’r gystadleuaeth, roedd rhaid i mi gyflawni pum sialens, gan gynnwys copïo steiliau gwallt o luniau roddwyd i mi a chreu steiliau gwreiddiol i briodferch. Roedd y gystadleuaeth yn heriol ar adegau ond mae hi’n wych gwybod bod yr holl waith caled wedi talu’i ffordd.

Mynychodd y dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James, y Sioe Sgiliau eleni. Wrth sôn am lwyddiant Cymru dywedodd:

“Rydw i’n falch iawn o allu mynychu’r Sioe Sgiliau er mwyn gweld a’m llygad fy hun pa mor llwyddiannus ydy Cymru yng nghystadleuaeth WorldSkills y DU.

“Mae’r ffaith i ni gael y nifer uchaf erioed o ddysgwyr, prentisiaid a gweithwyr cyflogedig i gynrychioli Cymru yn y rownd derfynol yn llwyddiant ynddo’i hunan, ond i’r tîm ddod â chymaint o fedalau adref ac i ni gael cymaint o unigolion ymhlith sgwad y DU – mae’n gredyd enfawr i’w gwaith caled, eu talent a’u hymroddiad.”

Llongyfarchwyd y cystadleuwyr ar eu llwyddiant gan Barry Liles, Hyrwyddwr Sgiliau Cymru.

“Mae’r ffaith bod ein pobl ifanc yn gallu cystadlu ac ennill yn erbyn goreuon y DU – a’r byd – yn tystio i safon gwych y sgiliau sydd ganddo ni yma yng Nghymru. Llynedd, llwyddodd pedwar o Gymry ifanc i fynd drwy rowndiau WorldSkills i gyrraedd a theithio i rownd derfynol y byd yn Sao Paolo, Brasil.

“Rwy’n gobeithio bod llwyddiant y bobl ifanc dalentog yma wedi’u hysbrydoli i fynd ymlaen i fod yn weithwyr cyflogedig gyda sgiliau gwych yn ogystal ag argyhoeddi pobl ifanc eraill pa mor bwysig ydy hi i ddatblygu’u sgiliau eu hunain.”

Mae WorldSkills Rhyngwladol yn digwydd mewn dinasoedd dros y byd a dyma’r gystadleuaeth ryngwladol fwyaf o’i bath ym maes sgiliau. Bydd y Gystadleuaeth WorldSkills nesaf yn digwydd yn 2017, yn Abu Dhabi. Cefnogir WorldSkills gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, i hybu pwysigrwydd gweithlu o sgiliau lefel uwch, gyda’r nod o rhoi hwb i lefelau sgil yng Nghymru.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau