Myfyrwyr a’u bryd ar gynaliadwyedd

Mae pump ar hugain o ddysgwyr o Goleg y Cymoedd wedi manteisio ar gyfle iddysgu am sut mae datblygwyr yn creu Cymru fwy cynaliadwy.

Mae’r dysgwyr, sydd ar hyn o bryd yn astudio Gradd Sylfaen mewn Adeiladau Cynaliadwy a Thirfesur yng nghampws Nantgarw Coleg y Cymoedd, wedi cael cyfle i weld sut y gellir troi hen safle diwydiannol yn gymuned newydd a sut mae ffermydd solar yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar gyfer miloedd o gartrefi Cymru.

Ymwelodd y dysgwyr â datblygiad tai Glan Llyn St. Modwen, a leolir ar hen safle Gwaith Dur Llanwern, a fferm solar Oak Grove y tu allan i Gil-y-Coed. Cawsant eu tywys gan ddau o raddedigion y cwrs, Lee Tillott o Littlewood Renewable, a Sean Barlow o St Modwen Homes.

Fel Lee a Sean o’u blaenau, mae mwyafrif y dysgwyr yn fyfyrwyr hÅ·n sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu ar hyn o bryd. Mae eu cwrs yng Ngholeg y Cymoedd wedi’i gynllunio i alluogi dysgwyr i uwchsgilio a datblygu eu gyrfaoedd trwy symud i rolau uwch a sectorau newydd o fewn y maes adeiladu megis syrfeo meintiau, a rheoli prosiectau.

Mae Robert Kilvington-Thomas ar hyn o bryd yn gweithio fel leiniwr sych ac mae’n bwriadu dilyn gyrfa newydd fel Syrfëwr Meintiau. Yn dilyn ei radd sylfaen, mae Rob yn gobeithio cwblhau atodiad BSc (anrhydedd) mewn Syrfeo Meintiau ym Mhrifysgol De Cymru.

Yn dilyn ymweliadau â’r safle, dywedodd Rob: Mae gan lawer ohonom ar y cwrs brofiad o weithio mewn disgyblaethau a chrefftau adeiladu penodol, ond mae’r cwrs yn agor cyfleoedd newydd inni symud ymlaen i yrfaoedd newydd. Pan fyddwch chi’n gweithio mewn diwydiant mae’n anodd ennill profiad y tu allan i’ch disgyblaeth.

Mae’r cwrs yn ein galluogi i ddysgu am ddatblygiadau mewn adeiladu modern a phwysigrwydd ymarfer cynaliadwy, ond mae’r ymweliadau hyn wedi ein galluogi i weld yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu yn y dosbarth ar waith. Mae gallu ei weld yn uniongyrchol a siarad â’r rhai sydd wedi astudio ar ein cwrs yn ddefnyddiol iawn. “

Ar ôl cwblhau eu gradd sylfaen, gall dysgwyr ddewis parhau â’u hastudiaethau yn y brifysgol, neu symud ymlaen i rolau newydd gyda’u cyflogwyr presennol. Darperir y cwrs gan Goleg y Cymoedd mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, gyda’r holl diwtoriaid yn meddu ar brofiad helaeth yn gweithio yn y sector adeiladu.

Wrth sôn am ymweliadau â safleoedd adeiladu, eglurodd arweinydd y cwrs, Karen Le Feuvre: “Mae’r ymweliadau â safle yn caniatáu i ddysgwyr roi eu dysgu yn y dosbarth mewn cyd-destun. Mae’r diwydiant adeiladu yn datblygu’n gyson ac yn defnyddio arferion a thechnegau arloesol newydd. Mae ymarfer cynaliadwy yn biler allweddol ym mholisi’r Llywodraeth ac felly mae’n cael effaith economaidd sylweddol ar y diwydiant. Mae bob amser yn beth da i ddysgwyr gyfarfod â graddedigion er mwyn iddynt gael gwell dealltwriaeth o lwybrau gyrfa sy’n agored iddynt yn y byd go iawn. “

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau