Myfyrwyr benywaidd y coleg yn cychwyn eu gyrfa pêl-droed cenedlaethol gyda chymorth gan un o sefydliadau blaenaf Cymru

Mae pedwar dysgwr uchelgeisiol y coleg wedi cael cyfle unwaith mewn oes i gynrychioli eu gwlad ym mhêl-droed merched a chwarae ochr yn ochr â’i heilunod diolch i academi bêl-droed un o golegau blaenaf Cymru.

Mae Ffion Morgan, Gwen Davies, Shaunna Jenkins a Hannah Miles i gyd yn ddysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd sydd wedi cael eu dewis i chwarae i sgwadiau pêl-droed merched cenedlaethol Cymru.

Mae Ffion o Gaerfyrddin, sydd ond yn 16 mlwydd oed, yn un o’r dysgwyr sydd wedi cynrychioli tîm dan 19 Cymru ac uwch garfan Cymru, yn chwarae ochr yn ochr â’i heilun Jess Fishlock, ar ôl gwneud y naid a symud i dde Cymru ei phen ei hun i ddilyn gyrfa mewn chwaraeon.

Mae’r seren uchelgeisiol, sydd ar hyn o bryd yn astudio BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon yng Ngholeg y Cymoedd, wedi cyfnewid ei thref enedigol yng Ngorllewin Cymru am Ystrad Mynach i hyfforddi yn y ganolfan chwaraeon enwog a mynd ar drywydd ei dyheadau pêl-droed.

Gan fyw mewn llety ger y campws yn ystod yr wythnos, mae Ffion yn rhan o academi pêl-droed benywaidd elît y coleg, a sefydlwyd ar y cyd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) i gynnig y cyfle i ferched o bob rhan o Gymru gyfuno sesiynau hyfforddi bob dydd, hyfforddiant dwys a gemau wythnosol gydag astudio llawn amser.

Mae Ffion yn awr yn galw ar ferched ifanc eraill i ystyried cynrychioli eu gwlad ar lefel genedlaethol mewn chwaraeon ac i sylweddoli bod parhau â’ch addysg a dilyn breuddwydion chwaraeon ar yr un pryd yn bosibl. Mae’r seren yn gobeithio chwalu’r farn nad yw pêl-droed yn beth i fenywod ac ysbrydoli rhagor o fenywod i gymryd rhan mewn chwaraeon ar lefel broffesiynol.

Meddai: Rwyf yn aml wedi bod yn y sefyllfa lle fi yw’r unig ferch mewn tîm, ond mae hyn wedi gwneud i mi deimlo’n wirioneddol falch oherwydd fy mod yn gwybod fy mod yn cynrychioli cymaint rhagor o ferched. I unrhyw fyfyrwyr allan yna sydd wrth eu bodd gyda champ benodol ac sy’n cael cyfle i roi cynnig arni yn broffesiynol, byddwn i’n dweud ewch amdani. Does dim byd yn well na chwarae dros eich gwlad, ac os ydych yn angerddol ac yn gweithio’n galed, nid oes rheswm pam na allwch gyflawni eich nodau.”

O oed ifanc, mae Ffion wedi teimlo’n angerddol tuag at chwaraeon a phêl-droed yn benodol, ac ymunodd â thîm bechgyn lleol er mwyn llosgi ei hegni diddiwedd. Nid oedd y ffaith mai hi oedd yr unig ferch ar y tîm yn poeni dim arni, ac nid oedd yn hir cyn iddi wneud argraff a chafodd ei chodi gan dîm pêl-droed Merched Rhydaman.

Pan oedd yn 15 oed, ymunodd Ffion â thîm Bryste – symudiad a oedd yn golygu teithio yn rheolaidd ar draws y wlad a gadael gwersi yn gynnar er mwyn chwarae. Ysgogodd hyn iddi ddilyn ei champ yn broffesiynol trwy ymuno â Choleg y Cymoedd, a ystyrir fel y lle gorau ar gyfer peldroedwyr benywaidd sy’n gobeithio chwarae yn genedlaethol diolch i bartneriaeth gyda Chymdeithas Pêl-droed Cymru.

Meddai Ffion: “Dod i’r coleg oedd yr opsiwn gorau imi ar gyfer datblygu fy ngyrfa. Mae’r cwrs rwy’n astudio ei yn wych oherwydd ei fod yn cynnwys amrywiaeth o chwaraeon, gan ganolbwyntio’n benodol ar bêl-droed, ac yn cynnwys gwaith dadansoddi, cyngor ymarferol a digon o hyfforddiant corfforol. Mae’r academi a chwrs y coleg wedi fy helpu i dyfu fel person ar y cae ac oddi arno, gan ddod o hyd i fy nghryfderau, gwella fy nhechneg ac adeiladu fy mhroffesiynoldeb cyffredinol. Mae’r hyfforddiant rwyf wedi ei dderbyn hefyd wedi gwella fy mhêl-droed mewn gwirionedd, gan helpu imi chwarae’n well yn erbyn merched o’r un safon â mi a’r rhai ar lefel uwch. “

Mae Ffion bellach wedi mynd ymlaen i chwarae i uwch garfan Cymru ochr yn ochr â’i heilun Jess Fishlock, ac enillodd ei chap cyntaf yn y gêm lle enillodd Jess ei chanfed.

Dywedodd: “Wrth dyfu, Jess Fishlock oedd fy mhrif fodel rôl ac felly mae chwarae gyda chi ar y cae wedi bod yn hollol anhygoel. Mae’n brofiad swreal perfformio ochr yn ochr â’r person a’ch ysbrydolodd i ddechrau yn y lle cyntaf. Mae’r profiad hwnnw wedi fy ysgogi i eisiau bod y gorau o blith y gorau a byddwn wrth fy modd yn gweld chwaraewyr ifanc sy’n ymuno â’r tîm yn edrych i fyny ataf i yn yr un ffordd ag yr wyf yn edrych i fyny ati hi. “

Haera Ffion, er bod cydbwyso astudio academaidd a dysgu proffesiynol â’i hyfforddiant pêl-droed proffesiynol yn anodd, mae’n bosibl gyda’r cymorth cywir. Ychwanegodd: “Rwy’n ffodus iawn gan fod y coleg lle rwy’n astudio wedi bod yn gefnogol iawn gyda fy ngyrfa pêl-droed, yn addasu terfynau amser pan rwyf wedi bod i ffwrdd gyda’r garfan a chynnig cyngor a chefnogaeth pan yr wyf wedi eu hangen. Mae hyn wedi fy ngalluogi i ddilyn fy uchelgais heb gyfaddawdu fy addysg sef rhywbeth y byddwn wedi cael gwir drafferth yn ei wneud fel arall.

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae gennym lawer o ddysgwyr dawnus iawn yn y coleg sy’n gobeithio dilyn gyrfa mewn chwaraeon ochr yn ochr â’u hastudiaethau ac rydym yn anelu at eu cefnogi waeth beth fo’u cwrs. Rydym yn credu na ddylai fod unrhyw rwystrau i uchelgeisiau a llwyddiannau ein dysgwyr, ac mae gweld y fath lwyddiannau ysbrydoledig fel Ffion, sydd yn un o bedwar dysgwr Coleg y Cymoedd i gael eu dewis ar gyfer tîm Cymru, yn atgyfnerthu’r pam. “

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau