Myfyrwyr Coleg, ‘yn arddull’

Mae myfyriwr y Cymoedd newydd gael cynnig lle i astudio Saesneg ym Mhrifysgol fyd enwog Rhydychen ar ôl i’w darlithwyr sylweddoli ei photensial a’i rhoi ar lwybr cyflym Lefel A.

Yn wreiddiol, roedd Shannon Britton, 18 oed o Ferndale, wedi rhoi ei bryd ar yrfa ym maes rheoli cerddoriaeth ac wedi ymrestru ar gwrs galwedigaethol BTEC yng Ngholeg y Cymoedd ynghyd â Saesneg.

Fodd bynnag, tra’n astudio Saesneg, sylweddolodd Shannon ei brwdfrydedd dros y pwnc a’i hawydd i astudio Saesneg yn y Brifysgol. Sylweddolwyd potensial academaidd Shannon gan ei thiwtor, Sonia Lowe, a’i cynorthwyodd i astudio rhagor o bynciau Lefel A ar gynllun llwybr cyflym y coleg a’i chymell i wneud cais am le yn adran Saesneg Rhydychen.

Nawr mae wedi derbyn cynnig diamod i astudio llenyddiaeth a iaith Saesneg yng Ngholeg Exeter, un o’r colegau hynaf a mwyaf nodedig.

Mae Shannon yn astudio Saesneg, Y Gyfraith a Hanes ar raglen llwybr cyflym Lefel A Coleg y Cymoedd lle mae’n astudio UG a Lefel A yn y Gyfraith a Hanes ar yr un pryd â Lefel A mewn Llenyddiaeth a Iaith Saesneg.

Mae’n priodoli ei llwyddiant i’r cymorth parhaus mae wedi’i gael gan Sonia a darlithwyr eraill yn y coleg sydd wedi rhoi o’u hamser i’w helpu gyda phroses wneud cais dra manwl Rhydychen.

Dywedodd Shannon: “Mae’n anodd egluro pa mor gyffrous dw i’n teimlo ar ôl cael cynnig lle i astudio yn Rhydychen, ond dw i wir yn meddwl bod fy nhiwtoriaid wedi cyffroi mwy na fi. Mae fy mam wedi dweud wrth bawb.

“O edrych yn ôl, mae’n rhyfedd gweld sut mae fy nghynlluniau wedi newid yn ystod fy amser yng Ngholeg y Cymoedd. Dewisais ddod i’r coleg oherwydd mod i’n teimlo’n barod i adael ysgol a bod yn fwy annibynnol. Un cam yn nes at brifysgol.

“Nid mynd i Rydychen oedd fy mwriad gwreiddiol, ond dan gyfarwyddyd fy nhiwtoriaid penderfynais ddilyn y llwybr cyflym a gwneud cais. Mae’n waith caled ond dwi’n benderfynol o wneud fy ngorau glas. Mae fy llwyddiant hyd yn oed wedi codi awydd yn fy chwaer i fynd i Gaergrawnt. Dyn a ŵyr beth all ddigwydd.”

Bydd Shannon ymhlith y myfyrwyr cyntaf i sefyll eu harholiadau lefel A yng nghanolfan pwrpasol Lefel A Coleg y Cymoedd, rhan o gampws newydd £40 miliwn Nantgarw a agorwyd ym mis Medi 2012.

Mae’r coleg yn gweithredu mewn partneriaeth â Choleg Catholig Dewi Sant Caerdydd ac Ysgol Gatholig Cardinal Newman ym Mhontypriodd a chyda dros 600 o ddysgwyr, y coleg ydy’r darparpwr Lefel A mwyaf yn Rhondda Cynon Tâf a Chaerffili.

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae Shannon yn esiampl ddisglair o’r potensial ifanc sy’n bodoli yn Rhondda Cynon Tâf a Chaerffili. Mae ei gwaith caled a’i hymroddiad i’w hastudiaethau, ynghyd â chymorth ei thiwtoriaid, yn adlewyrchu ethos a chenhadaeth ein coleg i gryfhau’r cymoedd drwy addysg rhagorol, sgiliau a hyfforddiant.

“Dymunwn bob llwyddiant i Shannon yn ei harholiadau a galw ar yr holl ddysgwyr i ddefnyddio’i stori yn gatalydd i ddilyn a chyflawni eu nod drwy addysg.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau