Myfyrwyr Coleg y Cymoedd i brofi ‘bywyd’ ym Mhrifysgol Rhydychen

Bydd tri o fyfyrwyr Coleg y Cymoedd yn cael cyfle i brofi bywyd ym Mhrifysgol Rhydychen ar ôl cael cynnig lle ar gwrs Haf UNIQ. Bydd y myfyrwyr a gafodd wybod bod lle iddyn nhw ar y cwrs yn gynharach y mis yma yn dechrau rhaglen ar-lein ym mis Ebrill, cyn cael mynd i’r Ysgol Haf ym mis Gorffennaf.

Yr Ysgol Haf wythnos o hyd, sydd wedi’i hariannu’n llawn, yw rhaglen fynediad Prifysgol Rhydychen ar gyfer myfyrwyr ysgolion gwladol, ac mae’r rhaglen yn darparu cymorth ar gyfer yr holl gostau teithio hyd yn oed. Mae UNIQ yn blaenoriaethu llefydd ar gyfer myfyrwyr â graddau da o gefndiroedd sydd wedi’u tangynrychioli yn Rhydychen a phrifysgolion eraill. 

Drwy gydol yr wythnos bydd y dysgwyr yn cael profiad o fywyd yn y brifysgol, yn gymdeithasol ac yn academaidd, gan ennill dealltwriaeth ddyfnach o’u dewis bwnc; gyda staff a llysgenhadon wrth law i gynnig cefnogaeth ac ateb unrhyw gwestiynau.

Dywedodd Isobel Jones, un o fyfyrwyr Coleg y Cymoedd a fynychodd y cwrs: “Ro’n i’n falch o gael fy nerbyn ar y cwrs, gan fod llawer o gystadleuaeth i sicrhau lle. Ar ôl bod yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun y Coed-duon penderfynais ymuno â Choleg y Cymoedd i astudio Safon Uwch yn y Gyfraith, Cymdeithaseg, Hanes a Iaith a Llenyddiaeth Saesneg. Fe wnes i ymgeisio am UNIQ oherwydd dw i’n cydnabod ei bod yn anodd dod o Gymoedd y De a chael fy nerbyn a chael cyfleoedd i fynd i brifysgolion mawreddog, felly fe benderfynais wneud cais i wthio fy hunan i geisio achub ar gymaint o gyfleoedd ag sy’n bosib, gan fod dim drwg mewn rhoi cynnig ar bethau. Dw i wedi cael fy nerbyn i astudio Saesneg ar UNIQ, a dw i’n gobeithio astudio’r pwnc yn y brifysgol ar ôl gadael y Coleg.

Yn ymuno ag Isobel bydd Aydin Dagdeviren, sydd wedi’i dderbyn i Ysgol Haf UNIQ Rhydychen i astudio Meddygaeth. Astudiodd Aydin yn Ysgol Uwchradd Islwyn cyn ymrestru yng Nghanolfan Safon Uwch Coleg y Cymoedd, campws Nantgarw, lle mae’n astudio Bioleg, Cemeg, Mathemateg a Ffiseg ar safon Uwch Gyfrannol ar hyn o bryd. Mae Aydin yn bwriadu astudio Meddygaeth yn y brifysgol, cyn mynd ymlaen i gwblhau PhD mewn Meddygaeth, a dod yn Rhiwmatolegydd cymwys.

Y trydydd aelod o grŵp Coleg y Cymoedd i fynychu UNIQ yw Jacob Jones, a fynychodd Ysgol Uwchradd Pontypridd, cyn ymuno â Chanolfan Safon Uwch Coleg y Cymoedd i astudio Mathemateg, Mathemateg Bellach, Ffiseg a Chemeg. Wrth siarad am sicrhau lle yn UNIQ, dywedodd Jacob: “Fe wnes i gais ar gyfer y cwrs Ffiseg oherwydd dw i’n teimlo y bydd y profiad yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i fi ynghylch a hoffwn i wneud cais i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen ai peidio.”

Wrth sôn am lwyddiant ei myfyrwyr Safon Uwch, dywedodd y tiwtor Holly Richards: “Rydyn ni mor falch o’r myfyrwyr, maen nhw wedi gwneud gwaith da i sicrhau llefydd ar UNIQ. Mae’n broses gystadleuol iawn gyda miloedd o fyfyrwyr yn gwneud cais am nifer cyfyngedig o lefydd. Mae cael tri myfyriwr Safon Uwch yn cael eu derbyn ar y cwrs yn wych ac yn amlygu safon y myfyrwyr. Dw i’n siŵr y byddan nhw’n achub ar bob cyfle sydd ar gael iddyn nhw yn ystod yr wythnos ac yn gadael gyda dealltwriaeth ddyfnach o’u pwnc a bywyd prifysgol yn gyffredinol.”

Bu cyn-fyfyriwr Coleg y Cymoedd, Jodie Neville, ar Gwrs Haf UNIQ yn 2019 pan oedd yn astudio yng Nghanolfan Safon Uwch Coleg y Cymoedd. Wrth siarad am ei phrofiad, dywedodd Jodie: “Dw i’n siŵr y bydd y myfyrwyr yn cael profiad gwych ar y Cwrs UNIQ yn Rhydychen, mae’r cwrs yn eithaf dwys ond mae’n rhoi cipolwg da ar fywyd prifysgol. Fy nghyngor i fyddai i fwynhau’r cwrs ac i fanteisio ar bob cyfle sy’n cael ei gynnig iddyn nhw. Fe helpodd gyda fy mhenderfyniad i wneud cais i Rydychen, lle dw i wrthi’n astudio’r Gyfraith.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau