Yn dynn ar sodlau canlyniadau Lefel A yr wythnos ddiwethaf, mae Coleg y Cymoedd yn dathlu canlyniadau rhagorol lefel TGAU yr wythnos hon.
Eleni, mae’r Coleg yn hapus iawn bod y cyfradd pasio TGAU Mathemateg a Saesneg yn 99%
Yn Saesneg, cafwydd cynnydd o 6% yn y graddau A*-C, tra bu cynnydd o 7% yn y graddau A*-C ar gyfer Haen Uchaf Mathemateg, a’r ddau ffigwr yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.
Gyda thros 350 o ddysgwyr yn derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw, mae Coleg y Cymoedd yn chwarae rôl bwysig yn cynorthwyo dysgwyr yn eu harholiadau ail-sefyll er mwyn eu helpu i symud ymlaen.
Ymhlith y canlyniadau nodedig mae Peter Burridge, o Ffynnon Taf, a gyflawnodd gradd B yn Haen Uchaf Mathemateg ac yntau’n 78 oed.
Dychwelodd Peter i fyd addysg y llynedd i ymgymryd â chwrs cyn TGAU er mwyn helpu eu wyrion gyda’u gwaith cartref Mathemateg a mwynhaodd y cwrs gymaint, dychwelodd i sefyll arholiad Mathemateg TGAU.
Ar ôl gyrfa ym maes peirianneg oedd yn cynnwys rheoli prentisiaethau gan gychwyn fel prentis ei hunan, mae Peter nawr yn bwriadu gwirfoddoli i fentora myfyrwyr iau drwy eu cymwysterau.
Dywedodd Peter: “Roedd dychwelyd i fyd addysg fel petai rhywun wedi fy achub rhag boddi. Galla i ei argymell i bobol o bob oed sy’n chwilio am sialens newydd i wella’u sgiliau. Roedd y tiwtoriaid yn hyfryd iawn ac ansawdd yr addysgu yn rhagorol.â€
“Wnes i erioed freuddwydio y byddwn i’n ennill gradd B,†meddai Peter, “ond fe wnes i wirioneddol fwynhau’r pwnc a dwi’n edrych ymlaen at fentora eraill a helpu fy ŵyr a fy wyres gyda’u gwaith cartref.â€
Yn y cyfamser, cyflawnodd, Anastasija Smetankina myfyrwraig ESOL radd B ar ôl dysgu Saesneg fel iaith dramor fel dechreuwraig bur ac mae nawr yn symud ymlaen i brifysgol a Cheryl Jones, dysgwraig ran amser dosbarthiadau nos a enillodd A* mewn Mathemateg.
Dywedodd Judith Evans, y Pennaeth: “Rydyn ni’n hynod falch o’r hyn mae ein dysgwyr wedi’i gyflawni drwy weithio’n galed a manteisio i’r eithaf ar addysgu a’r cymorth heb ei ail sydd ar gael yng Ngholeg y Cymoedd.â€
“Rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod y dysgwyr hynny sydd angen ail-sefyll eu TGAU yn derbyn help gyda’u cam nesaf neu bod y rhai hynny sy’n dychwelyd i fyd addysg yn cael eu cynorthwyo.
“Ar ran holl staff y Coleg, hoffwn longyfarch yr holl ddysgwyr a gyflawnodd y canlyniadau oedd ei angen arnyn nhw heddiw a dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw wrth iddyn nhw barhau â cham nesaf eu hastudiaethau,â€
Mae lleoedd gwag ar gael ar gyrsiau rhan amser yn ystod y dydd, ar gyrsiau gyda’r hwyr a nos mewn TGAU Mathemateg a Saesneg, ac ar y rhaglenni hwb i Lythrennedd a Rhifedd yng Ngholeg y Cymoedd ar gyfer Medi 2016. Mae lefel i siwtio pawb o ddechreuwyr i arbenigwyr! Felly, os oes angen i chi ail-sefyll y cymhwyster hanfodol hynny mewn TGAU Mathemateg a/neu Saesneg neu os hoffech wella’ch sgiliau llythrennedd a/neu rifedd a’ch hyder, cysylltwch â’r coleg neu ewch i’r wefan: www.cymoedd.ac.uk.
“