Myfyrwyr Coleg y Cymoedd yn cael profiad o ‘Fywyd Myfyrwyr’ yn Rhydychen

Mae pump o fyfyrwyr Coleg y Cymoedd wedi llwyddo i gael lle ar raglen fawreddog UNIQ ym Mhrifysgol Rhydychen.

Mae’r dysgwyr canlynol sy’n astudio Lefel UG, Charlotte Bailey (16 o Dreorci), Hannah Bezant (17 o Ffynnon Taf), Kristian Hallett (17 o Ystrad Mynach) Jessica Paige Thomas (17 o Bencoed), a Naomi Thomas (17 o Ferthyr Tudful), wrth eu bodd am iddyn nhw gael eu dewis o blith nifer fawr o ymgeiswyr.

Bydd y dysgwyr yn treulio wythnos yn byw ym Mhrifysgol Rhydychen, yn mynychu darlithoedd, seminarau a gweithdai ar sut i wneud cais i Rydychen. Bydd y pum dysgwr, ac y mae tri ohonyn nhw o Ysgol Gatholig Cardinal Newman, hefyd yn cael cyfle i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol sydd wedi eu cynnwys yn y rhaglen.

Bwriad y rhaglen ydy rhoi golwg realistig o fywyd myfyrwyr yn Rhydychen, gan roi blaenoriaeth i rai o ysgolion ac ardaloedd heb fod â fawr ddim traddodiad o wneud ceisiadau llwyddiannus ar gyfer Rhydychen. Mae’r ysgolion haf UNIQ yn rhaglenni mynediad, agored i ddysgwyr sy’n astudio ar eu blwyddyn gyntaf Lefel A.

Er mwyn cael lle, gofynnwyd i’r dysgwyr gyflwyno datganiad personol yn amlinellu eu diddordeb yn eu dewis gwrs a’u rhesymau dros fynychu UNIQ. Gofynnwyd i aelodau o staff y coleg gefnogi cais pob ymgeisydd. Roedd angen i’r dysgwyr roi gwahanol ddewisiadau o gyrsiau a llwyddodd pob un o’r pump i gael cynnig eu dewis cyntaf. Bydd Charlotte ar y cwrs Ffrangeg, Kristian ar y cwrs Hanes ac Archeoleg, tra bydd Hannah yn cael blas ar y cwrs Biocemeg.

Dywedodd Naomi Thomas o Ferthyr Tudful, sydd wedi cael lle ar y cwrs Gwyddorau Biofeddygol: “Mae’n fraint cael mynd i ysgol haf UNIQ. Feddyliais i erioed byddai Rhydychen yn opsiwn i mi, ond llwyddodd staff y coleg i fy narbwyllo o fy mhotensial llawn ac y mae cael fy nerbyn ar y cwrs wedi fy rhoi un cam yn nes i gyrraedd yno. Rydw i’n astudio Bioleg Lefel A ac mae gen i wir ddiddordeb yn y maes ac felly roedd y Gwyddorau Biofeddygol yn gwrs delfrydol i fod arno yn yr ysgol haf. Mae hwn yn gyfle gwych a rydwi’n edrych ymlaen yn fawr.

Yn ôl Jessica Paige Thomas o Bencoed, fydd yn mynychu’r cwrs Codau a Rhifau Mathemateg. “Rwy’n wir hapus i fod ar y cwrs Codau a Rhifau Mathemateg gan mai dim ond ugain y cant sy’n cael eu derbyn. Rwy wedi rhoi fy mryd ar Rydychen ac mae hwn yn gam mawr i’r cyfeiriad cywir i mi.”

Wrth longyfarch y dysgwyr, dywedodd Ian Rees, y Rheolwr Cynghrair Strategol: “Rwy’n hynod falch fod y pum myfyriwr UG wedi cael eu derbyn ar ysgol haf UNIQ ym Mhrifysgol Rhydychen eleni. Mae cyfleoedd fel hyn yn rhoi mewnwelediad amhrisiadwy o fywyd colegol yn un o’r sefydliadau uchaf eu parch yn y DU.”

‘Yng Ngholeg y Cymoedd, rydyn ni’n falch o’r dewis o bynciau Lefel A rydyn ni’n gynnig, ynghyd â’r addysgu a’r gefnogaeth gan y staff. O wybod ymroddiad y myfyrwyr hyn, rydyn ni’n obeithiol byddan nhw’n dilyn ôl troed un arall o’n dysgwyr, oedd eleni y cyntaf o’n myfyrwyr i gael cynnig lle yn Rhydychen i astudio Saesneg, a bod tri arall sy’n gwneud eu Lefel A ar hyn o bryd wedi cael cynigion amodol ar gyfer Rhydychen neu Gaergrawnt ar gyfer 2015.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau