Mae’r campweithiau a welir ar waliau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi dod yn fyw, diolch i waith grŵp o ddylunwyr gwisgoedd o Goleg y Cymoedd.
Mae oriau o ymchwil hanesyddol a misoedd o waith manwl gan ddysgwyr coleg sy’n astudio tuag at eu BA (Anrh) mewn Llunio Gwisgoedd ar gyfer y Llwyfan a’r Sgrin wedi creu dehongliadau agos iawn o’r dillad a welir yn rhai o weithiau enwocaf yr Amgueddfa, gan gynnwys La Parisienne Renoir, a elwir hefyd yn Y Fonesig Las.
Mae’r gwisgoedd yn ffrwyth llafur tri mis o waith yng nghampws Nantgarw Coleg y Cymoedd, a arweiniodd at arddangos gwaith y dysgwyr yn y digwyddiad unigryw Ffasiwn yn y Ffrâm yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Yn ogystal â gweld un o gasgliadau celf gorau Ewrop, cafodd y rhai a fu’n mynychu’r digwyddiad y cyfle prin i ryngweithio â rhai o wrthrychau’r paentiadau, wrth i fodelau gerdded i mewn i’r ystafell yn gwisgo’r chwe gwisg a grëwyd.
Yn ogystal â chreu gwisgoedd a oedd yn edrych yn gywir, gyda chymorth gan Elen Philips, Prif Guradur Hanes Cyfoes a Chymunedol Amgueddfa Genedlaethol Sain Ffagan, a’r hanesydd Yr Athro Lloyd Llewellyn-Jones o Brifysgol Caerdydd, defnyddiodd dysgwyr y Coleg y Cymoedd dechnegau cyfoes i’r cyfnod i greu pob darn.
Yn dilyn eu hastudiaethau yng Ngholeg y Cymoedd, bydd llawer o’r dysgwyr yn ceisio rhoi eu sgiliau ar waith mewn gyrfaoedd yn creu gwisgoedd ar gyfer sgriniau theatr, teledu a ffilm.
Gofynnwyd i ddysgwr Coleg y Cymoedd, Angela Emes, ail-greu darn a wisgwyd gan Clara Novello Davies mewn portread a baentiwyd gan Margaret Lindsay Williams ym 1915. Yn dilyn y digwyddiad yn yr Amgueddfa, dywedodd Angela: “Dyma brosiect gwirioneddol gyffrous i weithio arno. Mae llawer o bobl ar y cwrs am gael gyrfaoedd mewn dylunio gwisgoedd ar gyfer y theatr, teledu a ffilm, ond mae creu rhywbeth sy’n hanesyddol gywir yn cymryd llawer mwy na chreu rhywbeth sy’n edrych yn iawn. Mae angen ichi ddewis eich technegau, ffabrig a modelau yn ofalus. Y nod oedd rhoi’r argraff fod y gwrthrych wedi camu o’r gynfas, ond dim ond o’r hyn a welir yn y peintiad y gallem weithio. Roedd cael popeth arall yn gywir yn cymryd oriau ymchwil.
“Ymunais â’r coleg yn fy 60au ac rwy’n bwriadu gweithio gyda chynyrchiadau lleol ar ôl imi raddio. Roeddwn mor ddiolchgar i gael fy nerbyn ar y cwrs ac mae’r coleg wedi ein cadw’n egnïol ac wedi ein hysbrydoli ers inni ymuno â’r radd sylfaen. Rwyf wedi ennill profiad gwaith gyda stiwdios ffilm, wedi creu gwisgoedd ar gyfer digwyddiadau brenhinesau drag, mae’n rhywbeth newydd o hyd diolch i’n tiwtoriaid. Rwy’n gwybod y bydd llawer o bobl ar y cwrs yn gweithio gyda phrosiectau mawr theatr a ffilm yn y dyfodol.”
Wedi’i denu gan enw da’r cwrs Llunio Gwisgoedd, symudodd Iona Duff i Gymru o Gaergrawnt yn benodol i astudio yng Ngholeg y Cymoedd. Eglurodd Iona: “Wedi imi ddysgu bod llawer o raddedigion y cwrs wedi sicrhau gyrfaoedd yn gweithio ar gyfer cynyrchiadau teledu, ffilm a theatr, roeddwn yn gwybod bod angen imi astudio yma. Dros y blynyddoedd rwyf wedi gallu gweithio ar rai prosiectau diddorol, ond mae hyn wedi bod yn un heriol iawn. Roeddwn wedi bod yn awyddus i geisio gwneud gwisg Fictorianaidd gymhleth, felly roeddwn wedi fy nghyffroi wrth glywed y byddwn yn ail-greu’r wisg a wisgir gan Y Fonesig Las. Wrth imi ymchwilio’r gwaith yn gynnar yn y camau cynllunio, cynyddodd y pwysau, wrth imi sylweddoli’n gyflym mai dyma un o’r darluniau mwyaf enwog yng Nghymru. Nid oedd y ffaith y byddwn Yn torri sidan las sy’n costio dros £20 y metr yn helpu chwaith.”
Rwyf yn credu bod y profiad o weithio ar y darn hwn yn mynd i’m helpu yn y dyfodol. Fy mreuddwyd yw mynd ymlaen i greu gwisgoedd ar gyfer teledu a ffilm. Pan fyddwch yn gwneud rhywbeth y gellid ei ffilmio yn agos a’i ddangos ar sgrîn sinema HD, mae manylion yn cyfrif. Roedd y darn hwn yn oriau ar oriau o waith, ond roedd yn gyfle gwych.”
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Caroline Thomas, arweinydd dyfarniadau dysgwyr Ysgol Diwydiannau Creadigol Coleg y Cymoedd: “Mae pob un o’r dysgwyr wedi rhoi eu calon a’u henaid i greu’r gwisgoedd hyn ac mae’n hynod gyffrous gweld y gwaith hwnnw’n dod i ben gyda digwyddiad byw yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Ni allwch ddychmygu lefel y gwaith y mae’n ei gymryd i ddod â darn o ddillad hanesyddol a geir mewn peintiad yn fyw. Dim ond dechrau’r stori yw’r hyn y gallwch ei weld. Mae pob gwisg wedi’i llunio o’r ‘croen i fyny’ i fod mor gywir â phosibl. Mewn rhai achosion ceir cewyll, corsets a llawer o haenau o ddillad.”
Roedd gweld y modelau yn cerdded ochr yn ochr â’r gwaith celf a’u hysbrydolodd yn anhygoel ac roedd yr orymdaith gwisgoedd o flaen organ hardd Williams-Wynn yr Amgueddfa, yn dangos yn glir bod gan y dysgwyr dawnus hyn yrfaoedd diwydiannol gwych o’u blaenau.”
“
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR