Mae heddiw (Awst 14) yn ddigwyddiad cofiadwy i addysg yng Nghymoedd De Cymru wrth i garfan gyntaf myfyrwyr Lefel A Coleg y Cymoedd, coleg mwyaf newydd De Cymru, ddathlu eu canlyniadau gwych.
Drwyddi draw, llwyddodd y myfyrwyr cyntaf fu’n astudio yng Nghanolfan Lefel A newydd Coleg y Cymoedd sicrhau cyfradd pasio 99%.
Sicrhaodd y coleg hefyd raddfa o dros 70% o raddau A*-C gyda 21 o’r 25 pwnc Lefel A a gynigir yn y coleg yn cyflawni cyfradd pasio o 100% mewn pynciau oedd yn cynnwys Mathemateg, Saesneg, Cemeg, Ffiseg a Hanes.
Canolfan Lefel A y coleg a lansiwyd yn swyddogol yn 2012 ar gampws gwerth £40 miliwn Nantgarw ydy’r darparwr mwyaf o bynciau Lefel A yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Taf.
Yn gyfredol, mae dros 600 o fyfyrwyr yn astudio yn y ganolfan sy’n cynnig dewis o 28 o bynciau Lefel A/UG ac mae’n gweithredu fel partneriaeth rhwng y coleg, Coleg Catholig Dewi Sant, Caerdydd, ac Ysgol Y Cardinal Newman ym Mhontypridd.
Ymhlith y canlyniadau Lefel A nodedig mae Shannon Britton, 18 oed, Glynrhedynog (Ferndale) a gafodd radd A* yn Saesneg a’r Gyfraith a gradd A yn Hanes. Bydd yn mynd ymlaen i Goleg Exeter yn Rhydychen i astudio Saesng. Cafodd Chloe Ratcliffe, 18,o Dreharris, dair gradd A mewn Saesneg, Hanes a Mathemateg. Bydd hi’n mynd i Kings College yn Llundain i astudo hanes. Cafodd Jodie Hartley, 18, o Gaerffili radd A mewn Astudiaethau Busnes a graddau B mewn Hanes a Chymdeithaseg. Bydd Jodie’n mynd i Brifysgol Caerloyw i astudio plentyndod cynnar.
Dywedodd Shannon Britton: “Dw i mor hapus i gael y graddau roeddwn i eu hangen a dwi mor gyffrous o feddwl mod i’n mynd i astudio yn Rhydychen . Ron i wedi gobeithio y baswn i’n gwneud yn dda ond wir wnes i ddim disgwyl y graddau A*. Dw i mor ddiolchgar i Goleg y Cymoedd am eu cymorth, yn enwedig am fy rhoi ar y llwybr cyflym er mwyn cwblhau fy Lefel A mewn blwyddyn.â€
Dywedodd Chloe Ratcliffe: “Yn anffodus, bu farw fy nhadcu fore fy arholiad hanes, felly ron i’n ofni mod i wedi cawlio pethau. Roedd fy nhiwtoriaid yn wych a helpon nhw fi i gadw’n bositif, gan sicrhau mod i’n canolbwyntio ar fy arholiadau. Byddai fy nhadcu mor falch ohono i a’r graddau dw i wedi’u cael.â€
Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae heddiw yn garreg filltir bwysig iawn yn hanes Coleg y Cymoedd. Mae ein perfformiad rhagorol ym mhynciau Lefel A yn goron haeddiannol ar ddwy flynedd o waith caled gan fyfyrwyr a’r staff sy’n eu cynorthwyo.
“Mae llwyddiant ein myfyrwyr yn arwydd o genhadaeth Coleg y Cymoedd i atgyfnerthu Cymoedd De Cymru drwy ddarpariaeth academaidd rhagorol wedi’i chyflenwi drwy gwriwlwm Lefel A ehangaf De Cymru .
“Ar ran holl staff y coleg, hoffwn longyfarch yr holl fyfyrwyr Lefel A ac UG a dymuno llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol wrth iddyn nhw barhau â’u hastudiaethau yn y coleg, symud i brifysgol neu gychwyn ar yrfa.
“Ar Lefel UG cafwyd cynnydd o 9% ar ganlyniadau llynedd, sy’n galonogol iawn wrth edrych ymlaen at ein canlyniadau Lefel A yn 2015.â€
Llongyfarchiadau i Chloe Ratcliffe, myfyrwraig yng Ngholeg y Cymoedd gafodd 3 A yn ei Lefel A. Bydd yn mynd i Kings College Llundain i astudio Hanes
Llongyfarchiadau i Aimee Lewis, un o’n myfyrwyr, sy’n mynd I Brifysgol De Cymru i astudio Rheoli Busnes a Marchnata
Llongyfarchiadau i Rhys Davies un o’n myfyrwyr sy’n mynd i Brifysgol Abertawe i astudio Cymraeg a Sbaeneg
Llongyfarchiadau i Owen Edwards, un o’n myfyrwyr talentog, sy’n mynd i astudio Technoleg Sain ym Mhrifysgol De Cymru
Llongyfarchiadau i Jodie Hartley o Gaerffili, sy’n dathlu ei graddau ABB ac ar ei ffordd i Brifysgol Caerloyw
“