Myfyrwyr cynllun ‘Learning Curve’ gydag achos i ddathlu

Roedd dros wyth deg o ddysgwyr Rhondda Cynon Taf yn bresennol yng Ngwobrwyon Blynyddol ‘Learning Curve’, gynhaliwyd eleni ar gampws Aberdâr Coleg y Cymoedd. Dyfernir y gwobrau hyn am lwyddiannau yn ystod blwyddyn academaidd 2013-14.

Jonathan Morgan, Cyfarwyddwr Y Gyfadran Iechyd, Chwaraeon a Mynediad Galwedigaethol, oedd yn croesawu’r dysgwyr a’u gwahoddedigion ac fe gyflwynodd hefyd rai o’r staff allweddol oedd yn cymryd rhan yn yr achlysur.

Derbyniodd y dysgwyr hÅ·n, sy’n astudio ar gampysau Aberdâr, Rhondda a Nantgarw a nifer o ganolfannau allgymorth drwy’r Fwrdeistref Sirol, eu tystygrifau mewn amrywiaeth o bynciau gan gynnwys Menter, Iechyd a Ffitrwydd, Hylendid yn y Gegin a Hyfforddiant Teithio. Cynigir y cyrsiau hyn mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Yn ôl Nicola Richards,Uwch Swyddog Datblygu, Gwasanaethau ‘Learning Curve’: “Mae Coleg y Cymoedd yn darparu cyrsiau rhan amser o ansawdd drwy ardal Rhondda Cynon Taf, sy’n gwella’r cyfleoedd rydyn ni’n gallu eu cynnig i’n grwpiau o ddefnyddwyr y gwasanaethau. Mae caffael sgiliau, drwy gyrsiau rhan amser, yn cynyddu annibyniaeth ac yn rhoi sgiliau a hyder newydd i’r dysgwyr. Mae’r wir bleser cael cydnabod llwyddiannau’r holl ddysgwyr eto eleni.”

Wrth gyflwyno’r tystysgrifau, llongyfarchodd Dirprwy Bennaeth y Coleg, John Phelps, y dysgwyr ar eu llwyddiannau a thalodd deyrnged i’r gefnogaeth roedd teluoedd a staff wedi ei rhoi i’r dysgwyr. Dymunodd yn dda i’r dysgwyr gan edrych ymlaen at eu gweld eto yn seremoni’r flwyddyn nesaf.

Bu tiwtoriaid y cyrsiau, Elaine Lippard, Evelyn Anderson, Carol Fatkin, Liz Terry a’r Cynorthwyydd Cymorth Dysgu, Lloyd Harrington, (ar ran Lesley Hooper) yn cyflwyno’u dysgwyr ac yn cymeradwyo’u llwyddiant. Yn anffodus, ni allai Gail Pritchard a Richard Williams, sydd hefyd yn addysgu dosbarthiadau ‘Learning Curve’, fod yn bresennol yn yr achlysur. Diolchodd Evelyn Anderson hefyd i Grŵp ‘Dydd Llun’ Nantgarw am eu hymdrechion yn casglu £38.50 ar gyfer elusen TÅ· Hafan drwy werthu planhigion.

Dywedodd Paul Lambert, dysgwyr 49 oed o Donteg, sy’n rhan o’r tîm Parciau a Garddio yn ‘Learning Curve’ Trefforest: “Rydw i’n mwynhau’r cwrs a chwrdd â phobl. Un o fy hoff deithiau oedd yr un mewn cwch o gwmpas Bae Caerdydd ar H.M.S. Daffodil. Rydw’n hynod falch o’r dystysgrif rydw i wedi dderbyn heddiw.”

Meddai Cydlynydd y dosbarthiadau ‘Learning Curve’ yng Ngholeg y Cymoedd, Rachel Wallen, oedd wedi trefnu’r digwyddiad ynghyd â Nicola Richards: “Rydw i’n falch iawn o lwyddiannau’r dysgwyr. Dim ond ar ddydd y gwobrwyon y gallwn ni weld gwir ddarlun o’r niferoedd o ddysgwyr sy’n derbyn tystystgrifau yn ardal Rhondda Cynon Taf. Mae hefyd yn rhoi darllun llawnach o’r hyn mae’rcoleg yn ei ddarparu a sut y mae tiwtoriaid ymroddedig, a staff cymorth dysgu, yn cwrdd â gofynion y dysgwyr. Mae’n hyfryd gweld llawenydd pob un dysgwr gyda’i gyflawniad ei hunan.”

Y gynulledifa niferus o deuluoedd,ffriniadu a staff balch yn llawenhau wrth i’r dysgwyr dderbyn eu tystygrifau haeddiannol.

Ar Ebrill 16, bydd Coleg y Cymoedd yn cynnal ei ddiwrnod cynghori. Bydd y Diwrnod Cynghori yn parhau o 4.00 y pnawn hyd 7 yr hwyr ac yn gyfle i ddarpar ddysgwyr a’u teuluoedd i fynd o gwmpas cyfleusterau’r coleg a dysgu rhagor am y cyrsiau sydd ar gael.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau