Myfyrwyr Gofal yn anfon cymorth i deuluoedd mewn angen yn Ynysoedd y Philipiniaid

Mae Coleg y Cymoedd wedi bod yn arddangos arbenigedd galwedigaethol ac yn darparu profiadau diwylliannol i grŵp o ymwelwyr. Yn ddiweddar, bu’r coleg yn croesawu grŵp un ar bymtheg o ymwelwyr rhyngwladol o Chongqing yng nghanolbarth Tseina.

Mewn partneriaeth gyda nifer o golegau eraill ar draws Cymru darparodd Coleg y Cymoedd brofiadau addysgol a chyfleoedd diwylliannol cofiadwy ar gyfer y grŵp oedd yn cynnwys staff a myfyrwyr. Trefnwyd ymweliad y dysgwyr a staff o chwe choleg galwedigaethol gan ColegauCymru Rhyngwladol ar ran Consortiwm AB Cymru-Chongqing.

Croesawyd y grŵp gan y Pennaeth, Judith Evans, a roddodd gyflwyniad manwl ar y coleg a’r sector addysg bellach yng Nghymru cyn mynd â’r grŵp ar daith o gwmpas campws Ystrad Mynach a champws gwych Nantgarw. Cwrddodd yr ymwelwyr â staff allweddol a fu’n rhoi cipolwg o’r ddau gampws iddyn nhw, a’r modd y mae’r coleg yn cael ei weithredu a blas o brofiadau myfyrwyr.

Cymerodd yr ymwelwyr ran mewn arsylwi dosbarthiadau yn rhyngweithiol mewn nifer o feysydd galwedigaethol o Awyrofod i Arlwyo, er mwyn dangos yr ystod o lwybrau galwedigaethol sydd ar gael yn y coleg. Anogwyd y grŵp i gymryd rhan yn y sesiynau addysgu ac fe wnaethon nhw fwynhau gwisgo’r dillad a gynhyrchwyd gan ddysgwyr ar gyrsiau y Diwydiannau Creadigol. Fe roddodd dysgwyr cyrsiau Busnes Coleg y Cymoedd gyflwyniad i’r ymwelwyr ar Ddiwylliant Cymru.

Cafodd y myfyrwyr a staff o Chongqing flasu bwyd lleol ffantastig bwyty masnachol y ‘Nant’ ar gampws Nantgarw ac ym Mwyty Scholars ar gampws Ystrad Mynach. Cafodd y grŵp gyfle hefyd i fynd o gwmpas dinas Caerdydd a mynd i weld mannau pwysig diwylliannol yng nghymoedd De Cymru gan gynnwys amgueddfeydd a Chastell Caerffili.

Trefnwyd rhaglen amrywiol yr ymweliad fel y byddai staff a myfyrwyr o’r chwe choleg galwedigaethol yn cael profiadau perthnasol. Mae’r ymweliad yn rhan o gynlluniau rhyngwladol ehangach ac ynghyd â chyfnewid diwylliannol blaenorol mae’n helpu i greu cysylltiadau cryfach gyda cholegau gwledydd tramor.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau