Yn gynharach y mis hwn, cafodd Coleg y Cymoedd ynghyd â phedwar sefydliad addysgol arall o Gymru eu cydnabod am eu gwaith rhyngwladol yn Seremoni Gwobrau Rhyngwladol 2014.
Datblygwyd y digwyddiad gan y Cyngor Prydeinig mewn partneriaeth â Dimensiwn Rhyngwladol Cymru mewn Addysg (WIDE), ColegauCymru a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ieithoedd – CILT Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Nod y gwobrau hyn ydy codi’r proffil a gwobrwyo cyflawniad a rhagoriaeth addysgu dinasyddiaeth fyd-eang, ieithoedd tramor a’r dimensiwn rhyngwladol ym maes addysg Cymru. Maen nhw’n cydnabod y gwaith rhyngwladol a’r arferion gorau a welir mewn ysgolion a cholegau ar hyd a lled Cymru.
Dywedodd Tanya Bevan, Dirprwy Gyfarwyddydd Cyngor Prydeinig Cymru; “Llongyfarchiadau i bob sefydliad sydd wedi ennill gwobr. Mae athrawon a dysgwyr Cymru yn gynyddol ymwybodol o bwysigrwydd datblygu meddylfryd rhyngwladol; mae’r sefydliadau hyn wedi dangos ymrwymiad i waith rhyngwladol, gan ddefnyddio arferion addysgu deinamig a chreadigol. Mae’r cysylltiadau hyn yn galluogi i’n dysgwyr ymgyfarwyddo â gwahanol safbwyntiau, eu deall a’u hystyried, sgiliau sydd yn bwysig ar gyfer ein dinasyddion byd-eang yn y dyfodol.â€
Derbyniodd Coleg y Cymoedd Wobr ColegauCymru am ddefnyddio’r Dimensiwn Rhyngwladol i Wella Effeithiolrwydd Coleg. Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Mel Jones, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Technoleg, “Llynedd, enillon ni Wobr Rhyngwladol ColegauCymru, gwobr oedd yn cydnabod y gwaith roedd y coleg wedi’i wneud i ddatblygu cysylltiadau rhyngwladol. Llynedd oedd y tro cyntaf i golegau AB fod yn rhan o’r gwabrau ac felly ron i wrth fy modd i dderbyn y wobr am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae gwobrau fel hyn yn cymell ac yn ysbrydoli’r staff i barhau â’r cysylltiadau a chynyddu cyfleoedd sy’n gwella profiad dysgu ein dysgwyrâ€.
Dywedodd Evan Lloyd, prentis gyda British Airways Maintenance Caerdydd ac yn cynrychioli dysgwyr Coleg y Cymoedd, “Yn ystod fy astudiaethau yng Ngholeg y Cymoedd bues i’n ffodus o gael ymweld â Ravensberg yn yr Almaen a threulio pythefnos ar brofiad gwaith yn E.A.D.S., Freidrickhafen. Roedd yn brofiad gwych a dysges i lawer am eu cyflogaeth a’u diwylliant. Mae cysylltiadau rhyngwladol y coleg megis prosiect Leonardo yn darparu cyfleoedd rhagorol i ddysgwyr brofi diwylliant Ewropâ€.
Y Cyngor Prydeinig ydy sefydliad rhyngwladol y DU ar gyfer cyfleoedd addysgol a chysylltiadau diwylliannol. Rydyn ni’n creu cyfleoedd rhyngwladol ar gyfer pobl y DU a gwledydd eraill ac adeiladu ymddiriedaeth rhyngddyn nhw yn fyd eang.â€