Myfyrwyr Mynediad Galwedigaethol Coleg y Cymoedd yn ennill Gwobr Aur Dug Caeredin am y tro cyntaf

Mae tri myfyriwr Mynediad Galwedigaethol o Goleg y Cymoedd yn Nantgarw wedi creu hanes drwy ennill Gwobr Aur Dug Caeredin am y tro cyntaf erioed ar gyfer eu sefydliad.

Mae’r cyflawniad mawreddog yn dangos ymroddiad y myfyrwyr i hunan-wella ac i greu effaith gadarnhaol yn eu cymunedau.

Mae rhaglen Dug Caeredin, sydd ar gael i bobl ifanc rhwng 14 a 24 oed, yn cynnwys tair lefel gynyddol (Efydd, Arian ac Aur) a gyflawnir drwy oresgyn her neu ffin bersonol.

Mae gweithgareddau cymhwyso yn cynnwys dangos ymrwymiad i’r amgylchedd, dod yn fwy heini, datblygu sgiliau newydd, a chynllunio, hyfforddi a chwblhau alldaith.

Er mwyn ennill y Wobr Aur fawreddog, rhaid i’r unigolyn ifanc gymryd rhan bellach mewn uned breswyl pedwar diwrnod.

Cyflawnodd myfyrwyr Coleg y Cymoedd eleni y gamp yma mewn cydweithrediad â Stump Up for Trees—sefydliad elusennol yn y Fenni. Treuliodd Courtney Williams, Ian Wilkes-Evans a Hannah Fletcher bedwar diwrnod yn plannu bron i 2,000 o goed.

Ar ôl creu argraff ar yr aseswyr gyda’u cyfraniad at gadwraeth yn y gymuned, dyfarnwyd y wobr Dug Caeredin uchaf i’r myfyrwyr, ac maent wedi’u gwahodd i Balas Buckingham i dderbyn eu tystysgrifau gan Aelod o’r Teulu Brenhinol ar ddechrau’r flwyddyn nesaf.

Meddai Kay Spears, aelod o staff a wirfoddolodd i helpu ar yr arhosiad preswyl, am gyflawniadau’r myfyrwyr: “Dyma oedd fy nhro cyntaf ar gwrs Dug Caeredin ac roedd yn wych gweld yr holl waith caled sy’n rhan ohono.

Roedd y myfyrwyr yn rhagorol; fe fentron nhw allan o’u mannau cysurus a mwynhau pob eiliad ohono, gan wneud ffrindiau a magu hyder. Roedd hwn yn gyfle pwysig iddyn nhw ddysgu i gredu ynddyn nhw’u hunain. Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn wynebu heriau’n uniongyrchol a phrofi iddyn nhw’u hunain beth maen nhw’n gallu ei wneud.”

Drwy’r rhaglen, mae’r myfyrwyr nid yn unig wedi cael hwyl a gwella eu hunan-barch, ond maen nhw hefyd wedi ennill sgiliau gydol oes ar hyd y ffordd.

Val Smith, Darlithydd Mynediad Galwedigaethol, oedd yn gyfrifol am arwain rhaglen Dug Caeredin Coleg y Cymoedd eleni. Meddai: “Mae’r set sgiliau uwch yn dilyn alldaith Dug Caeredin yn cynnwys gwytnwch, sgiliau datrys problemau, sgiliau gweithio mewn tîm a chyfathrebu. Bydd sgiliau yn y meysydd yma nid yn unig yn eu helpu’n bersonol, ond hefyd yn gwella eu CVs yn ogystal â cheisiadau ar gyfer y brifysgol neu swydd.

Mae’r cyflogwyr gorau yn gweld gwerth mawr mewn unigolion sydd â sgiliau parod ar gyfer y byd gwaith, gan sicrhau y bydd galw mawr am y myfyrwyr yma o Goleg y Cymoedd wrth iddyn nhw ddechrau yn y byd proffesiynol.”

Mae cyrsiau Mynediad Galwedigaethol Coleg y Cymoedd yn darparu mynediad hygyrch i addysg bellach a gyrfaoedd gydol oes. Gallwch ddysgu mwy drwy fynd i: Mynediad i Addysg Uwch – Coleg y Cymoedd

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau