Myfyrwyr y Coleg yn cael canmoliaeth am ddadlau am faterion Ewropeaidd

Bu Coleg y Cymoedd yn lleoliad i sesiwn cyfoethogi ym maes Arlwyo ar gampws Nantgarw, gan wahodd disgyblion o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni i gymryd rhan mewn gweithdy coginio proffesiynol, drwy gyfrwng y Gymraeg.

Treuliodd y 30 disgybl y diwrnod yn y ceginau arddangos, sydd ag offer cegin o safon uchaf y diwydiant, er mwyn iddyn nhw ymarfer y sgiliau sydd eu hangen i gael gwaith yn y sector arlwyo.

Mae’r sesiwn yn rhan o gyfres o ‘ddyddiau cyfoethogi’, sydd wedi eu hariannu gan Fforwm Traws-ffiniol 14 – 19 De Ddwyrain Cymru. Y nod ydy cyfoethogi profiadau dysgu myfyrwyr o ysgolion cyfrwng Cymraeg drwy roi cyfle iddyn nhw weithio gyda staff eithriadol o brofiadol y colegau mewn amgylchedd arlwyo proffesiynol. Mae sesiynau tebyg wedi eu cynnal ym maes Cynnal a Chadw Moduron a Ffrangeg, ac y mae gweithdy preswyl yn yr arfaeth ar gyfer Gofal Cwsmeriaid.

Roedd y sesiwn yn y coleg yn gymaint mwy cynhyrchiol gan fod pump o fyfyrwyr arlwyo sy’n siarad Cymraeg yn arwain y gweithdai, ac yn ymarfer eu sgiliau iaith am y tro cyntaf, mewn amgylchedd fel hyn, ers ymadael â’r ysgol.

Sylw Pennaeth y Coleg, Judith Evans oedd “Rydyn ni mor ffodus yng Ngholeg y Cymoedd bod gennym staff o sgiliau uchel yn y maes hwn, sy’n gallu addysgu yn y Gymraeg a’r Saesneg a rydyn ni’n hapus i annog y darpar gogyddion i ystyried gyrfa mewn arlwyo proffesiynol. Roedd y disgyblion yn gwrando’n astud, yn ymddwyn yn dda ac yn frwdfrydig dros ddefnyddio’r adnoddau ffantastig sydd ar gampws Nantgarw ac roedden nhw’n glod gwirioneddol i’w hysgol.”

Rhannwyd y disgyblion yn ddau grŵp a chafodd pob un y dasg o baratoi prif fwyd – selsig Morgannwg ac yna pwdin Cymreig. Dywedodd Jack Thomas, disgybl ym mlwyddyn 11, “Rydw i wedi mwynhau heddiw, a rydwi’n gobeithio mynd yn gogydd, felly mae hyn wedi bod yn grêt.”

Mae’r coleg yn cydweithio’n glos ag Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ac yn cynllunio i gydweithio ag ysgolion Cymraeg eraill drwy ardal Rhondda Cynon Taf a Chaerffili, gan gynnig gweithdai tebyg iddyn nhw.

Yn ôl Cerys Smith, Pennaeth Lletygarwch Ysgol Gyfun Cwm Rhymni: “Bu heddiw’n wych. Cafodd y disgyblion gyfle i weithio mewn cegin broffesiynol a defnyddio’u sgiliau a chael arbenigedd darlithwyr y coleg, sydd wedi bod o fudd mawr iddyn nhw.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau