Myfyrwyr y coleg yn cystadlu yn erbyn prifysgolion mewn Digwyddiad Marchnata nodedig

Ar ôl tymor lle nad oes neb, hyd yn hyn, wedi curo’r coleg yng nghyngrair Dan 18 URC, gall y coleg hefyd ddathlu bod 11 o’i chwaraewyr wedi cael eu dewis i sgwad Dan 18 Cymru.

Dewisodd Allan Lewis, hyfforddwr tîm dan 18 Cymru sgwad o 35 ar gyfer y gemau yn erbyn Ffrainc a Lloegr. Mae tua un rhan o dair o’r rhain yn dod o Goleg y Cymoedd.

Yn ôl Allan Lewis, “Bydd chwarae yn erbyn Ffrainc a Lloegr yn her fawr i’r sgwad yma, yn enwedig gan fod y ddwy gêm yn cael eu cynnal o fewn wythnos i’w gilydd.

“Bu’r gystadleuaeth am le yn y grŵp yn fwy ffyrnig nag erioed gyda chwaraewyr Cynghrair Dan 18 URC yn ceisio cael lle ar sgwadiau Dan 18 y Rhanbarthau ac rydyn ni’n hapus iawn ar lefel y sgiliau a welwyd yn ystod yr hyfforddi.

“Bydd Ffrainc a Lloegr fel ei gilydd yn sialens gorfforol ac yn profi ein hamddiffyn a’n hymosod ond yn darparu ffon fesur wrth i ni fynd yn ein blaen.”

Dywedodd Clive Jones, Cyfarwyddwr Rygbi Coleg y Cymoedd: “Mae cael eu dewis i’r tîm cenedlaethol ar gyfer eu grŵp oed yn binacl gyrfa’r chwaraewyr ifanc hyn. Mae’r ffaith bod 11 wedi cael eu dewis yn dyst o ansawdd ein sgwad a lefel eu perfformiad. Mae’r bechgyn i gyd wedi dangos ymrwymiad eithriadol i raglen ymdrechgar ac yn wobr am eu gwaith caled.”

Bydd y gêm gyntaf yn cael ei chynnal 15 Mawrth pan fydd y tîm yn wynebu Ffrainc yn Chartres. Caiff unig gêm gartref y Tîm Dan 18 yn erbyn yr hen elyn, Lloegr, ei theledu’n fyw ar S4C. Bydd yn cychwyn am 1.45pm ar y Gnoll, yng Nghastell Nedd. Gellir prynu tocynnau ymlaen llaw o Swyddfa Docynnau’r Gnoll ar 01639 636585 neu eu prynu ar y diwrnod. Pris y tocynnau ydy £5 i oedolion a £3 i rai o dan 16 oed.

Yn dilyn y gemau hyn, bydd Lewis yn gostwng nifer y sgwad yn barod ar gyfer Pencampwriaeth Ewropeaidd Dan 18 FIRA-AER yng Ngwlad Pwyl adeg Y Pasg.

Blaenwyr:
Kieron Assirratti (Blues/ Coleg y Cymoedd/ Wattstown), Lewis Kirby (Ospreys / Pencoed Col/ Bridgend Ath), Dillon Lewis (Blues / Coleg y Cymoedd / Pontypridd), Keagan Bale (Dragons/ Coleg Gwent / Caerleon), Robert Lewis (Blues/ St Peters / Coleg y Cymoedd), Leon Brown (Dragons/ Newport High), Harrison Walsh (Ospreys / Bishopgore/ Mumbles), Liam Belcher (Blues/ Coleg y Cymoedd / Pontypridd), Dafydd Hughes (Scarlets / Llandovery College / Llandovery), Adam Beard (Ospreys / Neath Port Talbot College/ Morriston), Matthew Dodd (Ospreys / Olchfa / Dunvant), Seb Davies (Blues / Coleg y Cymoedd / Pentyrch), Calum Haggett (Blues / Coleg y Cymoedd / Gilfach Goch), Josh Middleton (Scarlets / Coleg Sir Gar / Kidwelly), Tom Phillips Scarlets / Coleg Sir Gar / Llangennech), Jon Fox (Ospreys/ Gower College / Swansea), Jordan Viggers (Blues / St David’s / St Peter’s), Harrison Keddie (Dragons / Coleg Gwent / Caerleon), Matthew Marley (Blues /Coleg y Cymoedd/ Pentyrch), Joshua Macleod (Scarlets / Bro Gwaun / Crymych), Josh Cole (Ospreys / Neath Port Talbot College / Tonmawr)

Cefnwyr:
Matthew Aubrey (Ospreys / Gower College/ Pontarddulais), Michael Hale (Blues / Glantaf / St Josephs), Carl Lewis (Blues / Coleg y Cymoedd/ Treorchy), Thomas Williams (Gogledd/ Rydal Penrhos / Newtown), Jarrod Evans (Blues / Coleg y Cymoedd / Pontypridd), Dan Jones (Scarlets / Coleg Sir Gar / Carmarthen Quins), Owen Watkin (Ospreys / Bridgend College / Bryncethin), Joe Gage (Ospreys/ Ystalyfera / Abercrave), James Whittingham (Blues / Cowbridge), Morgan Williams (Gogledd/ Coleg Llandrillo / Caernarfon), Rhys Gealley (Ospreys / YG Gwyr/Pontarddulais), Ellis-Wyn Benham (Blues/ Coleg y Cymoedd/ St Joseph’s), Lloyd Lewis (Dragons / Ysgol Gwynllyw), Curtis Povey (Blues / Colg y Cymoedd / Ystrad Rhondda)

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau