Myfyrwyr yn ddyfarnwyr yn agoriad Canolfan Chwaraeon Elite newydd

Mae Rebecca Thomas, myfyrwraig yng Ngholeg y Cymoedd wedi dod yn drydydd yng Ngwobrau Myfyriwr y Flwyddyn , cystadleuaeth drwy Brydain, am ei gwaith ym maes iechyd meddwl.

Yn ddiweddar, enillodd Rebecca, o Drecynon, Aberdâr, gystadleuaeth Endsleigh Myfyriwr y Flwyddyn Cymru ac yna dod yn drydydd yn rownd derfynol y DU – teyrnged i’w gwaith caled ym maes iechyd meddwl.

Rebecca ydy prif ofalwraig ei Mam, sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl. Gallai hyn fod wedi bod yn faen tramgwydd, gan ei rhwystro rhag astudio, ond dewisodd Rebecca gymryd camau positif a symud ymlaen i addysg bellach ar gampws Aberdâr Coleg y Cymoedd.

Mae Rebecca wedi defnyddio’i phrofiad i ganfod dysgwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl neu fod aelodau eu teuluoedd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl. Sefydlodd grŵp cymorth i drafod problemau gyda chyd-ddysgwyr a hefyd mae wedi trefnu tripiau a digwyddiadau cymdeithasol.

Ar ben hynny, gwirfoddolodd Rebecca gyda grŵp iechyd meddwl ‘New Horizons’ ac annog dysgwyr i ymuno a thrwy hynny sicrhau rhagor o help a chefnogaeth.

Mae’r wobr yn cydnabod y budd y mae gwaith Rebecca yn ei olygu i ddysgwyr, gwaith sydd wedi helpu ei chyd-ddysgwyr i ddal ati i astudio a chwblhau eu haddysg, gan symud ymlaen i gyflogaeth neu addysg uwch. Gobaith Rebecca ydy y bydd hyn cael dylanwad ar y gymuned ehangach yn gyffredinol.

Dywedodd Laura Wilson, y Swyddog Lles: “Mae Rebecca wedi rhoi o’i hamser yn y coleg a’i hamser rhydd gyda’r nos ac ar y penwythnosau. Mae ar gael i drafod problemau gyda’i chyd-ddysgwyr drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac yn aml mae’n eu ffonio i gael sgwrs.

Mae Rebecca wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r holl ddysgwyr sy’n wynebu sialensiau iechyd meddwl. Mae ei gwaith parhaus yn sicrhau na wahaniaethir yn erbyn unrhyw ddysgwr, dim ond bod yn derbyn cymorth a chael eu mentora drwy gydol eu hamser ar y campws.”

Dywedodd Rebecca: “Rydw i mor falch bod y gwaith dwi’n ei wneud gyda fy nghyd-ddysgwyr sy’n cael profiadau oherwydd problemau iechyd meddwl yn cael ei gydnabod. Yn aml, ystyrir mai ‘Sinderela’r’ byd meddygol ydy iechyd meddwl a’i ddiystyru gan y cyhoedd. Dwi’n daer dros sicrhau bod myfyrwyr yn iach yn feddyliol i’w galluogi i barhau â’u hastudiaethau.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau