Cafodd adran a phrentisiaid peirianneg Coleg y Cymoedd eu hanrhydeddu mewn seremoni wobrwyo uchel ei phroffl yn y diwydiant lle derbynion nhw wobr Coleg Gorau Cymru am eu darpariaeth o raglen Llwybrau i Brentisiaeth ym maes Peirianneg.
Mae’r wobr yn rhan o raglen Wobrwyo Darpar Weithgynhyrchu’r EEF (Ffederasiwn Cyflogwyr Peirianneg) drwy’r DU, rhaglen sydd, erbyn hyn, yn ei phumed blwyddyn.
Cyflwynwyd y wobr i’r coleg mewn seremoni lle roedd cannoedd o gyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a phrentisiaid yn bresennol ar Gwrs Rasio Caer.
Mae’r EEF yn cynnal y seremoni wobrwyo flynyddol er mwyn dangos y datblygiadau y mae Prydain yn eu harloesi yn y diwydiant gweithgynhyrchu ac mae’r achlysur yn cael ei gydnabod fel un o’r seremonîau gwobrwyo mwyaf a’r mwyaf nodedig yn y sector.
Canmolwyd Coleg y Cymoedd am ei waith gyda phartneriaid blaengar cenedlaethol a lleol yn darparu hyfforddiant a chymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer dysgwyr, gwaith sy’n arwain at swyddi go wir. Ymhlith partneriaid y Coleg yn y diwydant peirianneg mae cwmnîau pwysig megis GE Aviation, British Airways Maintenance yng Nghaerdydd, BA Avionics Llantrisant, BA Interiors Y Coed Duon a chwmnîau lleol megis FSG Tool & Die Cyf (FSG) ac Allevard Springs Cyf.
Yn y seremoni hefyd, gwobrwywyd cyflawniadau nifer o brentisiaid a dysgwyr Coleg y Cymoedd. Enillodd Aled Hughes sy’n ddysgwr yn cael ei gyflogi British Airways Maintenance yng Nghaerdydd wobr dysgwr gorau Llwybrau i Brentisiaethau ar gyfer blwyddyn academaidd 2012/13.
Dywedodd Aled: “Dw i’n hynod falch o’r wobr ac yn ddiolchgar iawn i’r coleg a British Airways Maintenance am roi’r cyfle hwn i mi gychwyn ar fy ngyrfa yn y diwydiant peirianneg drwy’r cynllun Llwybrau i Brentiaisaeth.â€
Gwnaeth nifer o fyfyrwyr eraill Coleg y Cymoedd yn dda hefyd. Cyrhaeddodd Williams Beynon, dysgwr ar raglen Llwybrau i Brentisiaeth ac sy’n cael ei gyflogi gan FSG Tool & Die Cyf, i rownd derfynol gwobr Dysgwr Gorau Llwybrau i Brentisiaeth ar gyfer 2012/13. Llwyddodd Amy Strange a Luke Parrry, sydd ar raglen Dysgu yn y Gweithle ac yn brentisiaid gyda GE Aviation (Amy) a FSG (Luke), ddod i rownd derfynol gwobr Prentis Gorau’r 3ydd Flwyddyn a daeth Cerys Williams yn ail yng nghategori Prentis Gorau’r Flwyddyn Derfynol. Yn ddiweddar, cwblhaodd Cerys, cyn ddysgwraig ar raglen Llwybrau i Brentisiaeth a’r rhaglen Dysgu yn y Gweithle ei phrentisiaeth ac wedi cael swydd gydag Allevard Springs, cwmni gweithgynhyrchu lleol.
Dywedodd Mel Jones, cyfarwyddwr cwricwlwm Coleg y Cymoedd: “Mae Gwobrau Darpar Weithgynhyrchu’r EEF eleni yn gydnabyddiaeth wych o waith caled staff adran beirianneg y coleg a’u hymroddiad i ddarparu hyfforddiant a sgiliau o’r safon uchaf ar gyfer y genhedlaeth nesaf o beirianwyr Cymru. Eisoes mae ein gwaith yn cael ei gydnabod gan ein partneriaid yn y diwydiant ac mae llawer ohonyn nhw hefyd wedi cael eu anrhydeddu yn y seremoni wobrwyo eleni.â€