Cyrsiau ar gael:-
Hyfforddi yn y Gampfa, Hyfforddiant Personol, ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill)
Cyrsiau sydd i fod i ddechrau ddiwedd mis Ionawr/dechrau mis Chwefror
Lefel 2 Hyfforddi yn y Gampfa
Amserlen nodweddiadol: Hybrid Rhan Amser (sesiynau campfa ar y safle a dysgu ar-lein gartref)
Beth yw amcanion y cwrs hwn: Rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i gynllunio, cyflwyno a goruchwylio rhaglenni ymarfer corff diogel ond effeithiol mewn amgylchedd campfa neu glwb iechyd.
Beth fyddaf yn ei ddysgu: • Anatomeg, ffisioleg a maeth a sut maent yn berthnasol i ymarfer corff a ffitrwydd. • Iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd ffitrwydd. ffordd iach o fyw. • Y sgiliau i gynllunio, cyfarwyddo a goruchwylio sesiynau ymarfer corff a gweithgareddau corfforol diogel ac effeithiol. • Proffesiynoldeb ar gyfer hyfforddi ffitrwydd. • Datblygiad personol a phroffesiynol. • Darparu gwasanaeth cwsmeriaid eithriadol.
Dilyniant Gyrfa: Diploma Lefel 3 mewn Hyfforddiant Personol. Fel arall, gallech chwilio am waith fel Hyfforddwr Campfa
Hyfforddiant Personol Lefel 3
Amserlen nodweddiadol: Hybrid Rhan Amser (sesiynau campfa ar y safle a dysgu ar-lein gartref)
Beth yw amcanion y cwrs hwn: Datblygu gwybodaeth a sgiliau presennol dysgwr i lefel broffesiynol mewn hyfforddiant campfa, gan ganiatáu iddynt fod yn hyfforddwr personol ardystiedig.
Dilyniant Gyrfa: Efallai y byddwch am symud ymlaen i hyfforddiant pellach i weithio gyda grwpiau arbennig. Fel arall, gallech chwilio am waith fel Hyfforddwr Personol neu weithio fel hyfforddwr hunangyflogedig
ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill)
Amserlen nodweddiadol: Rhan Amser dydd/noson – Aberdâr, Nantgarw, Rhondda, campysau Ystrad Mynach
Ar gyfer pwy mae’r cwrs: Unrhyw un sy’n siared Saesneg fel iaith ychwanegol (ESOL) ac sydd eisiau gwella eu sgiliau Saesneg.
Beth fyddaf yn ei ddysgu: Byddwch yn gwella eich gwybodaeth a’ch sgiliau:- Siared a gwrando, Darllen, Ysgrifennu, Gramadeg, Geirfa
Rydyn ni yma i helpu yng Ngholeg y Cymoedd. Yn syml, llenwch y ffurflen ymholiadau isod i fynegi diddordeb gyda ni. Byddwn yn cysylltu â chi pan fydd cyrsiau newydd ar gael.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR