Coleg y Cymoedd ymhlith y tri choleg Addysg Bellach gorau yng Nghymru am gymorth gyrfa unwaith eto

Mae’n anrhydedd i Goleg y Cymoedd dderbyn Gwobr Datblygu Gyrfa Gyrfa Cymru am yr eildro; un o dri sefydliad AB yn unig yng Nghymru i gyflawni hyn. Mae’r wobr yn cydnabod ymroddiad parhaus y coleg i wella’r ddarpariaeth gyrfaoedd er mwyn i fyfyrwyr gael llwyddo.

Rhoes y panel asesu ganmoliaeth i’r coleg am ei gefnogaeth a’i ymrwymiad yn ystod achredu ac ail-achredu gan roi sylw arbennig i Dîm y Dyfodol sy’n cynorthwyo myfyrwyr i drosglwyddo i’r brifysgol a gwaith. Hefyd, canmolwyd y digwyddiadau rhithwir a ddarparwyd i fyfyrwyr a rhieni yn ystod y pandemig.

Yn ystod yr ail-achrediad, nodwyd bod y coleg wedi llwyddo i integreiddio addysg gyrfaoedd a mentrau cymorth gyrfa ar draws y campysau. Ymhlith y mentrau hyn oedd defnydd staff y Canolfannau Adnoddau Dysgu o realiti rhithwir i gysylltu myfyrwyr â’r farchnad swyddi, a chysylltu menter ag addysg uwch a oedd yn golygu bod 100% o’r myfyrwyr a gymerodd ran yn teimlo’n fwy hyderus ynghylch gwneud cais i brifysgol.

Yn ogystal, tynnwyd sylw at brosiect gwirfoddol a oedd yn cynnig profiad ymarferol i fyfyrwyr o wahanol grefftau, drwy helpu i adfer Sefydliad y Glowyr Cefn Fforest, canolfan gymunedol leol.

Dywedodd Gyrfa Cymru fod gan Goleg y Cymoedd brosesau effeithiol i adolygu a datblygu eu gwasanaethau gyrfaoedd sy’n gwella’n barhaus er budd myfyrwyr ac er mwyn eu paratoi ar gyfer eu llwybrau gyrfa. Goruchwylir y gwaith hwn gan Gydlynydd Cymorth UCAS a Gyrfaoedd Coleg y Cymoedd, Samantha Hobby.

Rhoes y Pennaeth, Jonathan Morgan, ddiolch i Samantha am gyflwyno’r dystiolaeth ac i’r staff am eu gwasanaeth, gan ddweud: “Rydw i wrth fy modd bod y coleg wedi derbyn y wobr hon. Mae ein staff yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnig cymorth o ansawdd uchel i ddysgwyr, p’un a ydynt yn bwriadu mynychu prifysgol, dechrau prentisiaeth, ymuno â’r gweithlu, neu lansio eu busnes eu hunain. Roedd yr aseswyr yn cydnabod rhagoriaeth ein gwasanaethau cymorth.”

Dysgwch ragor am Dîm y Dyfodol y coleg

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd